Cod y Modiwl | DD23810 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI GOFOD | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||
Semester | Semester 1 | |||||||||||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Rhaid cyflawni dau o`r tri modiwl yma., DD10320 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 9 Awr 9 x 2 awr | ||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Yn y modiwl hwn, byddwch yn astudio gwahanol ddulliau o drefnu gofod y theatr er mwyn dadansoddi`r berthynas rhwng y drefniadaeth ofodol a natur neu ystyr y digwyddiad theatraidd yn ei grynswth.
Ar ddechrau`r cwrs, fe drafodir y cysyniad o ofod yn gyffredinol, gan nodi`r berthynas gynhenid rhwng ymwybyddiaeth yr unigolyn o ofod ac ymwybyddiaeth yr unigolyn o`i gorff/o`i chorff. Yna, yn ystod y seisynau canlynol, fe astudir ymddygiad tyrfaoedd, gan nodi rhai o`r dulliau perfformio a ddatblygwyd mewn perthynas a`r ymddygiad hwnnw. Dangosir bod theatr yn yr ystyr gyfoes wedi`i datblygu yn raddol wrth ffurfioli`r berthynas rhwng y dyrfa a`r perfformiwr.
Ar sail y ddamcaniaeth hon, asturdir gwahanol gyfnodau yn hanes y theatr, gan gynnwys y theatr Roegaidd, theatr yr Oesoedd Canol, theatr Shakespeare a datblygiad y theatr broseniwm, a`r Ugeinfed Ganrif.
Ar ddiwedd y cwrs, fe fyddwch yn sefyll arholiad ymarferol lle y gofynnir i chi gylfwyno prosiect ymarferol, ac fe gyflwynir nifer o sesiynau llai ffurfiol fel paratoad ar gyfer y prosiect hwn.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- cymharu`r ymdriniaeth o ofod yn y theatr mewn gwahanol gynodau hanesyddol
- gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol y cysyniad o ofod theatraidd
- deall bod theatr yn beiriant gofodol sy`n ymchwilio i natur a hunaniaeth yr unigolyn
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC