Cod y Modiwl | DD30620 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | THEATR CYMRU | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Anwen M Jones | |||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | |||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Ioan M Williams | |||||||||||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl yma:, DD10320 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 11 x 2 awr | ||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Yn y modiwl hwn, astudir dramau o 1913 i`r presennol yng nghyd-destun ein gorolwg o ddatblygiad y Theatr Gymraeg yn y ganrif hon. Yn narlithoedd y modiwl hwn, edrychir ar dwf y mudiad ar droad y ganrif ac ar ddylanwad Ibsen a`i ddilynwyr ar ffurf a chynnwys y ddrama gegin Gymraeg. Ystyrir i ba raddau y datblygwyd ac y gwyrwyd y `traddodiad` Ibsenaidd cynnar gan rai o`r dramodwyr amlycaf a ddaeth wedi hynny, gan gynnwys Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Wil Sam a Meic Povey.
Ein nod wrth gyflwyino`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- annog y myfyrwyr i werthfawrogi datblygiad hanesyddol y ddrama Gymraeg yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.
- gosod rhai o ddramau amlycaf y cyfnod yn eu cyd-destun athronyddol, cymdeithasol ac artistig
- trafod i ba raddau y mae gweledigaeth dramodwyr Cymraeg y cyfnod yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cymdeithas.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC