Cod y Modiwl | DD31620 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | PERFFORMIO 1 | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Charmian C Savill | |||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | |||||||||||
Cyd-Ofynion | DD21520 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | 8 Awr 8 x 2 awr + tua 120 awr cyswllt ynghlwm a chynhyrchiad ymarferol. | ||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- deall gofynion y gwaith ymarferol
- cynhwyso a datblygu`r gofynion hynny wrth berfformio`n gyhoeddus
- creu rol i chi eich hunan o fewn y grwp er lles y cynhyrchiad
MEINI PRAWF YR ASESIAD:
Llawlyfr Nodiadau Ysgrifenedig: fe fydd yr asesydd yn gwerthuso cyrhaeddiad y myfyriwr yn ol y meini prawf canlynol:
- dealltwriaeth y myfyriwr o`r math o ymdriniaeth dadansoddiadol a ddefnyddiwyd wrth gyflwyno`r modiwl
- gallu`r myfyriwr i gymathu a chymhwyso`r egwyddorion a`r ymarferion a gyflwynwyd yn ystod y sesiynau dysgu i`w gwaith/waith ymarferol ei hun
- gallu`r myfyriwr i gynnal cyfrif deallusol cytbwys o`i gwaith/waith trwy gydol y llawlyfr nodiadau
tystiolaeth o waith ymchwil a darllen cefndirol unigol ar ran y myfyriwr yn ychwanegol i`r deunydd a gyflwynwyd yn ystod sesiynau dysgu`r modiwl
- cyflwyniad taclus gan y myfyriwr, a fydd yn dangos ol gwirio o ran sillafu a gramadeg, adolygu o ran cynnwys a mynegiant (`darllen drwyddo` ar ol gorffen ysgrifennu), a llyfryddiaeth a nodiadau priodol
Asesiad ymarferol: fe fydd yr asesydd yn gwerthuso cyrhaeddiad y myfyriwr yn ol y meini prawf canlynol:
- gallu`r myfyriwr i arddangos dealltwriaeth o natur ac anghenion dramataidd y darn gosod a ddewiswyd, yn enwedig mewn perthynas a`r gofod theatraidd lle cyflwynir y darn gorffenedig
- gallu`r myfyrwir i gymhwyso`r wybodaeth a`r hyfforddiant corfforol a dderbyniwyd yn ystod sesiynau dysgu`r modiwl er mwyn cyflwyno`r darn gorffenedig
- gallu`r myfyriwr i ymateb yn ddeallus a dychmygus i gyfarwyddyd y tiwtor wrth baratoi`r darn ymarferol ac i gyfraniad y gynulleidfa wrth ei gyflwyno
- tystiolaeth o waith ymchwil a darllen cefndirol unigol ar ran y myfyriwr yn ychwanegol i`r deunydd a gyflwynwyd yn ystod sesiynau dysgu`r modiwl
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC