Cod y Modiwl | DD33020 | ||||||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | YMARFER CYFARWYDDO NEU DDYLUNIO | ||||||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | ||||||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||||||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | ||||||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Donna L Lewis | ||||||||||||||||||||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320 | ||||||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 10 Awr 12 x 1 awr | |||||||||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | Cyfarfodydd cynhyrchu ac ymarfer dwys ar gyfer prosiect ac ymweliad theatr | ||||||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Mae`r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe`i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwydoo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer ei berfformio`n gyhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadiu manwl o`r broses ymarfer a pharatoi a`u cyflwyno i`r arholwr mewn viva. Dylai`r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.
Gall myfyrwyr sy`n dymuno astudio Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchaid adrannol, ei baratoi a`i godi. Yn yr un modd, rhaid i`r myfyrwyr hyn gyflwyno`u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses grwu a`r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylai`r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesuw y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.
Bydd darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth grwp ynghylch y dewis ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a`r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynua unigol gyda chyfarwyddywr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ynffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a`r perffomriad ei hun. Ar adeg cwblhau`r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi`r gqaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddynt ysgrifennu ei traethodau.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC