Cod y Modiwl | DD33410 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI PERFFORMIO | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||
Semester | Semester 1 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson | |||||||||||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | ||||||||||
Sesiwn Ymarferol | 3 Awr 3 x 3 awr | |||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Yn y modiwl hwn fe`ch cyflwynir i rai o egwyddorion theori Perfformio, ac i`r broses o ddyfeisio a dogfennu gwaith grwp. Fe fydd y darlithoedd, a draddodir yn ystod y pum wythnos cyntaf o`r cwrs, yn dadansoddi`r syniad o berfformio, ac yn ystyried pa rol yn union sydd i berfformio mewn cyflwyniad theatraidd yn ogystal ag mewn nifer o ddulliau perfformiadol eraill nad ydynt o redirwydd yn deillio o`r theatr. Ochr yn ochr a`r darlithoedd hyn, fe gyflwynir cyfres o ddosbarthiadau ymarferol, lle byddwch yn datblygu `geirfa` gorfforol a fydd o ddefnydd wrth gyflwyno proesiect ymarferol ar ddiwedd y semester.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- helpu myfyrwyr i werthfawrogi deinameg cynhenid perfformio, y tu fewn a`r tu allan i theatr
- cyfuno dealltwriaeth theoretig ac ymarferol o berfformio trwy gyflwyno prosiect ymarferol
- helpu myfyrwyr i ddeall sut y mae perfformiad yn newid yn ol ei gyd-destun gofodol, amserol a chymdeithasol
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC