Cod y Modiwl | DD33720 | ||||||||
Teitl y Modiwl | AMGYLCHFYD Y CYNHYRCHIAD | ||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | ||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | To Be Arranged | ||||||||
Semester | Semester 1 | ||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson | ||||||||
Rhagofynion | DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320 , DD10520 | ||||||||
Cyd-Ofynion | DD21520 a/neu DD23310 | ||||||||
Elfennau Anghymharus | I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig | ||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | |||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr 3 x 1 awr | ||||||||
Eraill | Cyfnod arsylwi 7-14 days | ||||||||
Dulliau Asesu |
| ||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Mae`r modiwl yn galluogi myfyrwyr Anrhydedd Sengl i fyfyrio ar, a dadansoddi eu profiad o`r gwaith ymarferol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod eu hail semester. Rhoddir gyfle i fyfyrwyr fynd at gwmni proffesiynol am gyfnod o wythnos i bythefnos gan arsylwi ar eu gwaith. Bydd disgwyl iddynt gadw cofnod manwl o`u profiadau ar ffurf ysgrifenedig.
Gall y traethawd gyfeirio at waith perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio a ddilynwyd yn y modiwlau canlynol: Dadnsoddi P[erfformio, Cyflwyniad i Berfformio, Cyflwyniad i Ddylunio. Hefyd, yn amlwg, fe all y traethawd ddadansoddi`r broses o greu cynhyrchaid neu o weithio gyda chwmni proffesiynol mewn rhyw fodd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn strwythuro traethawd hir yn drefnus, yn cymhwyso a chyfathrebu gwybodaeth a phrofiad personol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn archwilio cores-doriad o gysyniadau sy`n ymwneud a meysydd penodol y gwahanol fodiwlau ymarferol a`r profiad galwedigaethol.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- annog myfyrwyr i ol-fyfyrio ar eu gwaith ymarferol a gyflwynwyd ganddynt yn ystod Rhan 2 o`u cwrs yn yr Adran
- darparu profiad o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- galluogi`r myfyrwyr i gymharu`r profiad proffesiynol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC