Cod y Modiwl FT20320  
Teitl y Modiwl CANRIF O SINEMA 1: FFILM NARATIF YN EWROP A'R UDA 1890-1950  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Kate E Woodward  
Semester Semester 1  
Rhagofynion FT10720  
Elfennau Anghymharus TF20320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Sesiwn Ymarferol   10 Awr Dosbarthiadau ymarferol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd estynedig 2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Sylwebaeth 1 1000 o eiriau  25%
Asesiad Semester Sylwebaeth 2 1000 o eiriau  25%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau''r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o rai o brif nodweddion ffilm naratif a''r ffordd y''u datblygwyd yn y cyfnod cynnar;
Gwahaniaethu rhwng gwahanol foddau o ddiscwrs a gynnigir yn y deunydd dan sylw;
Trafod techneg adroddiadol ffilm naratif fel y''i amlygir yn y deunydd dan sylw;
Amlygu''r gallu i ddadansoddi''r broses adroddiadol mewn ffilm naratif.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad sustematig i astudiaeth academaidd o ffilm naratif fel y mae wedi datblygu'n gyfrwng celfyddydol yn y byd Gorllewinol ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl yn derbyn cyflwyniad hanesyddol i ffilm naratif fel cyfrwng a byddant yn cael cyfle i ddatblygu methodoleg dadansoddiadol perthnasol i'r cyfrwng hwnnw. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae techneg a discwrs ffilm wedi datblygu dros y cyfnod rhwng 1900 a 1950, yn Ewrop a Gogledd America a hynny wrth astudio nifer o ffilmiau enghreifftiol.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cynnig methodoleg gogyfer a dadansoddi a gwerthfawrogi ffilm naratif y byd Gorllewinol y tu mewn i fframwaith hanesyddol.

Ar ol cyflwyniad hanesyddol a methodolegol rhoddir cyfle i astudio ffilmiau sy'n enghreifftio rhai o brif nodweddion cynhyrch y diwylliant ffilm yn Ewrop a'r Unol Daleithiau rhwng 1920 a 1948. Rhennir deunydd y modiwl rhwng tri rhan:

(1) Y cyfnod cynnar, at 1930; (2) Ffilmiau'r Unol Daleithiau, 1930-1939; (3) Ffilm yn Eworp, 1945-1950.

Trafodir y ffilmiau unigol a astudir yn y modiwl fel enghreifftiau o draddodiad ffilm fel cyfrwng celfyddydol ac anogir myfyrwyr i ddatblygu techneg o wahaniaethu rhyngddynt o ran y discwrs y maent yn ei gynnal a'r technegau a ddefnyddir i'r amcan hwnnw.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
I ddilyn

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC