Module Identifier FT22420  
Module Title IAITH A CHYFRYNGAU  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Miss Elin H G Jones  
Semester Semester 1  
Course delivery Lecture   10 Hours  
  Seminars / Tutorials   10 Hours  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Semester Assessment Portffolio (dim mwy na 2500 o eiriau)  50%
Semester Assessment Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau?r modiwl dylai myfyrwyr fedru cyflawni?r canlynol:

cyflwyno trafodaeth ddeallus o fewn fframwaith ddamcaniaethol o strwythur y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru (ynghyd a''r cyfryngau eraill hynny o''r tu allan i Gymru a ddefnyddir yn helaeth gan gynulleidfaoedd o fewn tiriogaeth Cymru),
trafod y cyfryngau Cymraeg a Chymreig mewn cydberthynas a chyfryngau mewn cymdeithasau dwyieithog eraill yn Ewrop, ynghyd a''r ffenomenau sydd yn gyffredin iddynt
dangos ymwybyddiaeth o''r cwestiynau penodol ieithyddol sydd yn wynebu''r cyfryngau a''u cynulleidfaoedd.

Brief description

Yn y modiwl hwn, tafolir y berthynas rhwng iaith a chyfryngau yng Nghymru ac Ewrop. Rhoddir pwyslais arbennig ar astudio

strwythur y cyfryngau o fewn cymdeithasau dwyieithog o fewn Ewrop (gyda phwyslais neiltuol ar Gymru)
y fframweithiau damcaniaethol sy'n berthnasol i iaith, cymdeithas a chyfryngau
cynnwys y cyfryngau hyn mewn cydberthynas a chyfryngau mewn ieithoedd eraill
perthynas y cyfryngau a'r grwp(iau) ieithyddol y maent yn eu gwasanaethu
rol y cyfryngau yn y cyd-destun sosioieithyddol ehangach.

Content

Canolbwyntir ar y meysydd canlynol

Agweddau ar ddamcaniaeth: Iaith, cymdeithas a chyfryngau
Y cyfryngau mewn cymunedau dwyieithog - teledu, radio, y wasg brintiedig a'r cyfryngau electronig
Iaith a genre rhaglenni teledu
Y gynulleidfa, cyfryngau a dwyieithrwydd.

Aims

Ein bwriad wrth lunio?r modiwl hwn yw:

rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio?r berthynas rhwng y cyfryngau ag iaith, gan gyfeirio at gyfryngau darlledu, print ac electronig
ystyried y fframweithiau damcaniaethol sy'n berthasol i gyfryngau, iaith a chymdeithas
trafod y cyfryngau yng Nghymru mewn perthynas a?r cyfryngau mewn gwledydd eraill yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar gymdeithasau sydd ag elfennau sylweddol o ddwyieithrwydd yn perthyn iddynt
trafod strwythur y cyfryngau (fel diwydiannau a gwasanaethau) ynghyd a chynnwys diwylliannol y cyfryngau mewn perthynas a?u cynulleidfaoedd

Reading Lists

To Be Announceds

Notes

This module is at CQFW Level 5