Cod y Modiwl GC20620  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WYDDELEG MODERN A'I LLENYDDIAETH I  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 1  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn modiwl hwn:
1. Byddwch yn gallu defnyddio''r ferf ''bod'' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol, yr amser gorffennol, a''r amser dyfodol.
2. Byddwch yn gallu defnyddio''r enw yn y cyflwr enwol a''r cyflwr dadiol.
3. Byddwch yn gallu defnyddio''r rhagenwau personol yn gywir.
4. Byddwch yn gallu defnyddio''r ferf reolaidd a''r ferf afreolaidd yn yr amser gorffennol.
5. Byddwch yn gallu defnyddio rhifolion a dweud yr amser.
6. Byddwch yn gallu defnyddio rhai o gystrawennau''r berfenw.
7. Byddwch yn gallu defnyddio ambell gystrawen gypladol.
8. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio''r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.

Disgrifiad cryno

Dysgu sylfaen gramadeg a chystrawen Gwyddeleg, gyda phwyslais ar ynganiad a morffoleg iaith lafar Conamara.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC