Cod y Modiwl GF10110  
Teitl y Modiwl Y GYFUNDREFN GYFREITHIOL  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys N Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr Yn Saesneg  
  Seminarau / Tiwtorialau   4 Awr Seminarau. Yn Gymraeg  
Exemptionau Professionalau Dim yn angenrheidiol i Bwrpas Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Dylai myfyrwyr y modiwl hwn fedru deall datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol, a medru cynnig sylwadau ar ei nodweddion. Dylent ddeall yn arbennig y defnydd o gynsail farnwrol a''r harwyddocad, a''r berthynas rhwng cynsail ymrwymol a chyfundrefn y llysoedd. Dylai myfyrwyr fedru disgrifio `rheolau? honedig dehongli statudol a chynnig sylwadau arnynt, a gweld sut mae hyn a rol barnwyr wrth ddehongli yn gosod cynsail wrth lunio''r gyfraith. Dylai myfyrwyr ddeall yr anawsterau sydd yngl''r a sicrhau rhwyddineb cael cyfiawnder, a rol y proffesiwn cyfreithiol a''r rheithgor.   
Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o''r canlynol:
- seiliau damcaniaethol y gyfraith
? yr amgylchfyd cyfreithiol
Datblygir sgiliau dadansoddi ynghyd a dealltwriaeth o berthnasedd ac amherthnasedd.
O ran sgiliau a rhinweddau eraill, bydd myfyrwyr yn datblygu:
- sgiliau ymchwil annibynnol
- sgiliau llafar ac ysgrifennu
- darllen a dehongli gwybodaeth.

Disgrifiad cryno

Mae?r cwrs yn ystyried strwythur y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Dadansoddir yn fanwl y rhan y mae?r farnwriaeth yn ei chwarae o ran dehongli deddfwriaeth a datblygu cyfraith achosion. Ystyrir dulliau o ddatrys anghydfod trwy edrych ar y broses ymgyfreithio ffurfiol. Bydd y cwrs hefyd yn bwrw golwg dros faterion ehangach rhwyddineb cael cyfiawnder, gan gynnwys cymorth cyfreithiol. Rhoddir braslun o?r gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith oherwydd ei bwysigrwydd i astudiaethau cyfreithiol yn gyffredinol. Ystyrir patrwm trefn y llysoedd a swyddogaeth proffesiwn y gyfraith. Ni fyddai cwrs fel hwn yn gyflawn heb gyflwyno datblygiad hanesyddol y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Rhoddir hyn gyda phwyslais arbennig ar dwf y gyfraith gyffredin ac ecwiti. Amcan y cwrs yw cynnig dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd gwaith y gyfraith, a hefyd sylweddoli mai pwnc deinamig sy?n newid yn gyson yw?r gyfraith, ac nid corff disyflyd o reolau sydd i?w dysgu ar y cof. Bydd deall materion megis cynsail farnwrol a?r dulliau a ddefnyddir gan y farnwriaeth i ddehongli statudau yn fuddiol iawn i fyfyrwyr wrth wynebu pynciau fel y gyfraith droseddol neu gyfraith tir.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth o batrwm, datblygiad hanesyddol a dulliau gweithio' r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, fel y bydd myfyrwyr yn medru asesu cyfundrefnau cyfreithiol yn feirniadol.

Cynnwys

Maes llafur:

1. Cyflwyniad i'r gyfraith fel pwnc
(i) Astudio'r gyfraith.
(ii) Hanes cryno o ddatblygiad a ffynonellau'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(iii) Gwahaniaethau a chategoriau'r gyfraith.

2. Braslun o Gyfundrefn y Llysoedd
(i) Patrwm y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Y gyfundrefn apelio sifil a throseddol.
(iii) Diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Trefniadaeth Sifil 1997.

3. Cyfraith a Ffaith
(i) Pwysigrwydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith mewn damcaniaeth ac arfer.
(ii) Cymharu cyfundrefnau ymchwiliadol a gwrthwynebiadol.

4. Cyfraith Achosion a Chyfundrefn Cynseiliau
(i) Y rhan y mae cyfraith achosion yn ei chwarae yng nghyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr
(ii) Cymharu a chyfundrefnau cyfreithiol eraill.
(iii) Cyfundrefn cynseiliau Lloegr ar waith.
(iv) Cynseiliau yng nghyd-destun Ewrop.

5. Deddfwriaeth a Dehongliad Statudol
(i) Patrwm Mesurau.   
(ii) Y broses ddeddfwriaethol.
(iii) Rheolau dehongliad statudol a chynorthwyon eraill i ddehongli.
(iv) Effaith Deddf Hawliau Dynol 1998.

6. Tribiwnlysoedd a Dulliau Eraill o Ddatrys Anghydfod
(i) Categoriau o dribiwnlysoedd.
(ii) Gwahanol ddulliau o ddatrys anghydfod.   
(iii) Diwygiadau.

7. Cael Cyfiawnder.
(i) Brasolwg o'r hen gyfundrefn Cymorth Cyfreithiol.
(ii) Y darpariaethau ariannol newydd; Deddf Mynediad i Gyfiawnder 1999.
(iii) Diwygiadau parhaol yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.

8. Y Proffesiwn Cyfreithiol a Swyddogaeth y Rheithgor yn y Gyfundrefn Gyfreithiol.
(i) Swyddogaethau?r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Swyddogaeth y Rheithgor.   
(iii) Y Mesur Cyfiawnder Troseddol 2002 a?i berthnasedd.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Gweler LA10110

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC