Cod y Modiwl GF15930  
Teitl y Modiwl CYFRAITH TROSEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys N Williams  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   48 Awr Yn Saesneg - 3 darlith un awr yr wythnos  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr Seminarau. Yn Gymraeg - 5 seminar un awr bob semester  
Exemptionau Professionalau Yn ofynnol at Bwrpas Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ddodi fedru adnabod a chymhwyso''r gyfraith berthnasol er mwyn datrys problemau. Disgwylir hefyd iddynt gloriannu a beirniadu''r gyfraith, a bod yn ymwybodol o''r lle sydd i''r diwygio.
Lluniwyd y safbwynt dadansoddol yn arbennig i annog myfyrwyr i lunio dadl argyhoeddiadol ar sail y dystiolaeth berthnasol. Er mwyn deall yn llawn y modd y mae''r gyfraith droseddol yn gweithio mewn cymdeithas, rhaid i fyfyrwyr werthfawrogi datblygiad hanesyddol, sylfaen ddamcaniaethol, a natur goruwchgenedlaethol gynyddol y pwnc. Mae''r modiwl yn hybu''r holl sgiliau deallusol a sgiliau pwnc a nodwyd yng nghanlyniadau dysgu''r rhaglen.

Disgrifiad cryno

Pwnc sylfaen yw Cyfraith Troseddau, a rhaid ei astudio a llwyddo ynddo er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Un yn unig o'r canghennau lawer o'r gyfraith y gellir eu hastudio yw'r Gyfraith Troseddau, ond gellid dweud mai dyma'r gangen fwyaf a'r un sy'n treiddio i'r rhan fwyaf o feysydd. Hynny yw, mae'r gyfraith troseddau yn cyffwrdd a phob maes arall yng nghyfraith Lloegr: mae'n treiddio i'r gyfraith fasnachol, cyfraith refeniw, cyfraith deuluol, cyfraith yr amgylchedd a llawer o feysydd eraill. Er enghraifft, mae Deddf Cwmniau 1985 yn creu mwy na 150 o wahanol droseddau. Byddwch yn dod o hyd i'r gyfraith troseddau hyd yn oed wrth astudio cyfraith ryngwladol gyhoeddus. Mae'n dilyn felly fod astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o unrhyw addysg go iawn yn y gyfraith. Rhaid inni bwysleisio na fydd y cwrs yn ceisio ymdrin a phob trosedd, na hyd yn oed y rhan fwyaf o droseddau penodol yng nghyfraith Lloegr. Mae llawer gormod o droseddau o'r fath. Bydd y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brofi bai na bwriad troseddol? A ystyrir bod rhywun yn `bwriadu? canlyniad os oedd yn gwybod ei fod yn sgil-effaith anochel i'r ymddygiad bwriadus? A all anwybodaeth am y gyfraith fyth fod yn amddiffyniad? Beth petai rhywun yn mynd ati i gyflawni rhyw drosedd, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei chyflawni? Er bod y pwyslais ar egwyddorion cyffredinol, ni ellir dysgu'r rhain na'u deall heb gyfeirio at droseddau penodol, a bydd nifer sylweddol o'r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl. Gellir defnyddio lladdiad (homicide) er enghraifft, i egluro ac esbonio amryw byd o egwyddorion. Gall lladd fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon; yn fwriadol neu'n ddamweiniol; yn rhagfwriadol neu'n ganlyniad i gythruddo sydyn. Gall y lleiddiad fod yn feddw neu'n sobr, neu yn wallgof; gall y dioddefwr farw ar unwaith, neu farw wedyn yn sgil esgeulustod meddygol. Mae yna reswm arall hefyd dros astudio dewis gweddol helaeth o droseddau. Mae angen i gyfreithiwr troseddau wybod er na ellir llunio un cyhuddiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, efallai y gellir llunio trosedd ychydig yn wahanol. Efallai y byddai cyhuddiad o fyrgleriaeth waethygedig yn llwyddo lle y byddai cyhuddiad o ladrad yn methu. Y gyfraith troseddau yw'r pwnc y mae myfyrwyr newydd yn y gyfraith yn dymuno ei astudio ran amlaf, ac rydym yn ffyddiog na fyddant yn cael eu siomi. Mae'n lliwgar ac yn frawychus mewn mannau, ac a gwedd ddynol iawn arni. Ond nid pwnc hawdd mohono. Mae'n amlygu i fyfyrwyr broblemau cymhleth dehongliad statudol, ac yn gofyn am lawer o waith astudio cyfraith achos - a llawer ohoni'n croesddweud ei hun ac yn ansicr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, gan geisio ei deall ar yr un pryd.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gywir o amcanion ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol Lloegr, a gwybodaeth ymarferol o amrywiaeth gweddol eang o droseddau ac amddiffyniadau penodol.

Cynnwys

1. Natur y Gyfraith Troseddau
Diffiniadau a gwahaniaethau hanfodol
Swyddogaeth y Gyfraith Droseddau mewn cymdeithas

2. Elfennau Trosedd

2.1 Actus Reus
camwaith neu anwaith
troseddau cyflwr amgylchiadau
troseddau ymddygiad a chanlyniad
achosiaeth
gwirfoddoldeb

2.2 Mens Rea
gwahanol fathau o mens rea
troseddau atebolrwydd caeth
y bwriad
gwybodaeth neu gred
malais
byrbwylltra (gan wahaniaethu rhwng Cunningham a Caldwell)
yr ewyllys
camgymeriadau a mens rea

3. Lladdiad
mathau o laddiad anghyfreithlon
achosiaeth
llofruddiaeth
mabanladdiad
dynladdiad dehongliadol
dynladdiad byrbwyll
lladd dan gythruddo
cyfrifoldeb lleiedig
achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus

4. Troseddau Corfforol Nad Ydynt yn Farwol
ymosod a churo
ymosod sy'n achosi gwir niwed corfforol
clwyfo a niwed corfforol difrifol
ymosod ar gwnstabl ayb
troseddau treisgar eraill

5. Troseddau Rhywiol
trais
cyfathrach rywiol anghyfreithlon
llosgach
troseddau gwrywgydiol
ymosod yn anweddus

6. Troseddau Cychwynnol
ysgogiad
y gyfraith gyffredin a chynllwynion statudol
ymgais

7. Cymryd Rhan mewn Trosedd
atebolrwydd dirprwyol a chorfforaethol
cynorthwyo, ategu, cynghori neu gaffael
mens rea y cyfranwyr
tynnu'n ol o gyfraniad
dioddefwyr fel affeithwyr
cyd-fenter

8. Cymhwyster ac Amddiffyniadau
mabandod
salwch meddyliol/gwallgofrwydd
awtomatiaeth
meddwdod
hunanamddiffyn
gorfodaeth
rheidrwydd

9. Lladrad a Throseddau yn Erbyn Eiddo
lladrad
ysbeilio
byrgleriaeth
blacmel
trafod nwyddau wedi eu dwyn
mynd a chludiant heb ganiatad
cyfrifeg anwir
mynd ymaith heb dalu
cael eiddo trwy ddichell
cael mantais ariannol trwy ddichell
troseddau twyll eraill
difrod troseddol

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Gweler LA15930

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC