Module Identifier GW10320  
Module Title RHYFEL STRATEGAETH A CHUDDWYBODAETH  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Dr Alastair J Finlan  
Semester Semester 2  
Other staff Miss Natalie A Williams  
Mutually Exclusive IP10320  
Course delivery Seminars / Tutorials   8 Hours (8 x 1 awr)  
  Lecture   18 Hours (18 x 1 awr)  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Supplementary Exam Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Erbyn diwedd y modiwl bydd y myfyrwyr wedi:

- Cael eu cyflwyno i''r materion a''r syniadau allweddol sy''n ymwneud a rol grym yng nghydberthynas gwledydd, gan gynnwys ei esblygiad, syniadaeth strategol fodern a nifer o faterion cyfoes ym maes strategaeth.
- Sicrhau cynefindra sylfaenol a''r cysyniadau a ddefnyddir mewn trafodaethau strategol cyfoes.
- Dod yn abl i gymhwyso''r cysyniadau hyn i ystod o faterion a phroblemau.
- Dod yn abl i wneud defnydd effeithiol o sgiliau: adnabod a lleoli ffynonellau addas; astudio''n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Brief description

Amcan y modiwl hwn yw darparu cyflwyniad i'r astudiaeth o rol grym yng nghydberthynas gwledydd, y modd y caiff ei ddefnyddio, a sut yr asesir y defnydd posibl ohono. Mae?n cynnwys ystyriaeth o ddefnyddioldeb grym, esblygiad rhyfela, syniadau strategol cyfoes, natur cuddwybodaeth a materion cyfoes yn ymwneud a strategaeth. Mae'r modiwl hwn yn cyfateb i?r darlithoedd (a gyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg) yn y modiwl newydd Rhan Un IP10320, ond bydd y seminarau yn GW10320 yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.

Aims

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i rol grym yng nghydberthynas gwledydd, i'r syniadaeth am rym ac i'r dadleuon yn ymwneud a'r cwestiwn o rym. Yn benodol mae'r modiwl yn amcanu i dalu sylw i:

- Y defnydd o rym yn yr oes fodern.
- Esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear.
- Strategaeth yn yr oes niwclear.
- Rol cuddwybodaeth.
- Cwestiynau cyfoes yn ymwneud a strategaeth.

Content

Mae'r modiwl yn cynnwys pum adran gysylltiedig. Caiff pob adran ei chyflwyno gan un aelod o'r staff a rhyngddynt byddant yn darparu cyflwyniad trylwyr i'r pwnc. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ddarlithoedd ac 1 neu 2 seminar. Bydd y modiwl yn dechrau drwy drafod y defnydd o rym yn yr oes fodern, gan gynnwys dadleuon ynglyn a'r defnydd o rym a darfodedigrwydd rhyfel. Yna bydd yn ystyried esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear, gan gynnwys y chwyldro Napoleanaidd a tharddiad rhyfela modern, dyfodiad rhyfel ddiarbed ac effaith technoleg ar ryfel, a fydd yn dod a'r myfyrwyr i fyny hyd at ddyfodiad yr oes niwclear. Mae'r drydedd adran yn ymdrin a syniadaeth strategol yn yr oes niwclear, gan gynnwys damcaniaeth ataliaeth, strategaeth niwclear, rheoli arfau, rhyfela chwyldro-gerila a therfysgaeth. Yn bedwerydd rhoir ystyriaeth i rol cuddwybodaeth, cuddwybodaeth a'r wladwriaeth, a gwrthysbio. Yn olaf mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o gwestiynau ym maes strategaeth, gan gynnwys ymyrraeth ddyngarol, lluosogiad niwclear a'r rhyfel yn erbyn terfysgiaeth..

Transferable skills

Drwy gydol y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl yn ogystal a'u sgiliau cyflwyno ar lafar. Bydd paratoi ar gyfer traethodau a'u hysgrifennu yn annog myfyrwyr i ymarfer sgiliau ymchwilio annibynnol gan gynnwys adalw, dethol, cydosod a threfnu data, ysgrifennu, TG a rheolaeth amser

Notes

This module is at CQFW Level 4