Module Identifier GW10420  
Module Title CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Mr Douglas W Stokes  
Semester Semester 1  
Other staff Professor Andrew Linklater, Mr Douglas W Stokes  
Mutually Exclusive IP10420  
Course delivery Lecture   20 Hours (20 x 1 awr)  
  Seminars / Tutorials   8 Hours (8 x 1 awr)  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Supplementary Exam Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Ar ol cwblhau''r modiwl bydd y myfyrwyr yn gallu:

- Asesu''n feirniadol y dulliau canolog sy''n rhan o astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
- Gwerthuso dulliau sy''n cystadlu a''i gilydd o fynd ynglyn a diwygio''r system ryngwladol.
- Gwneud defnydd beirniadol o ddulliau gwahanol o ymwneud a moeseg rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol a chyfiawnder cymdeithasol byd-eang.
- Cymhwyso''n feirniadol wahanol ddulliau o fynd ati i ddadansoddi materion cyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd.

10 credydau ECTS

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddadleuon y gorffennol a'r presennol ynglyn a'r rhagolygon ar gyfer cynnydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Aims

Bwriad y cynllun hwn yw egluro cymwysiadau cyfoes traddodiadau canolog syniadaeth ryngwladol a dadleuon parhaus ynglyn a natur gwleidyddiaeth y byd a'rr posibilrwydd o'ii ddiwygio.

Content

Mae tair rhan i'r modiwl. Mae Rhan Un yn dadansoddi tair ysgol o feddwl (realaeth, delfrydiaeth a'r dull cymdeithas ryngwladol) sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol. Mae Rhan Dau yn archwilio'r dadleuon cyfoes ynglyn a moesoldeb a rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol, cyfiawnder cymdeithasol byd-eang a rheolaeth yr amgylchedd byd-eang. Mae Rhan Tri yn trafod astudiaethau achos cyfoes sy'n ganolog i ddealltwriaeth o'r rhagolygon ar gyfer diwygiad y system ryngwladol.

Transferable skills

Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i feithrin sgiliau beirniadol drwy werthuso gwahanol berspectifau ar wleidyddiaeth y byd. Bydd sgiliau asesu gwahanol safbwyntiau athronyddol a diwylliannol yn cael eu datblygu ynghyd ag ymwybyddiaeth o ddimensiynau moesegol llunio polisiau a bywyd cyhoeddus. Yn ogystal, bydd sgiliau trosglwyddadwy dadansoddi persbectifau gwahanol a'u cymhwyso at ddadansoddiad astudiaethau achos arbennig yn cael eu datblygu.   

Drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau gall myfyrwyr feithrin sgiliau mwy penodol o ddehongli testun a deall cysyniadau. Bydd seminarau yn rhoi'r cyfle i gydweithio mewn grwpiau bychain ac i draddodi cyflwyniadau. Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol, dadleuon strwythuredig a chytbwys ynghyd a mynegiant eglur. Bydd yr arholiadau yn datblygu sgiliau cynllunio ymlaen llaw ac yn datblygu'r gallu i asesu gwahanol bersbectifau a dadleuon mewn amser cyfyngedig.

Notes

This module is at CQFW Level 4