Module Identifier GW10520  
Module Title HANES RHYNGWLADOL Y RHYFEL OER  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Dr Peter D Jackson  
Semester Semester 2  
Mutually Exclusive IP10520  
Course delivery Lecture   20 Hours (20 x 1 awr)  
  Seminars / Tutorials   8 Hours (8 x 1 awr)  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Supplementary Exam Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Ar ol iddynt gwblhau''r modiwl, dylai''r myfyrwyr allu:

- Trafod safbwyntiau gwrthwynebol ynglyn a tharddiad y Rhyfel Oer
- Archwilio effaith y Rhyfel Oer ar yr Unol Daleithiau, Ewrop a''r Trydydd Byd
- Asesu''r rol a chwaraewyd gan bolisiau tramor y Sofietiaid a''r Unol Daleithiau yn ffurfiant y Rhyfel Oer
- Dynodi tarddiad detente a''r rhesymau dros ei ddirywiad
- Asesu esboniadau gwrthwynebol am ddymchweliad Comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop a diwedd y Rhyfel Oer;
- Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Brief description

Mae'r modiwl yn archwilio prif ddigwyddiadau'r Rhyfel Oer, o ollwng y bom niwclear ar Japan ym 1945 hyd at ddad-ddrefedigaethu, y rhyfel yn Vietnam a dymchweliad rheolaeth y Blaid Gomiwnyddol yn Nwyrain Ewrop.

Aims

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i faterion a digwyddiadau pwysig a oedd yn allweddol yn ffurfiant hanes rhyngwladol y Rhyfel Oer (1945-11991).

Content

Mae'r modiwl yn dechrau drwy archwilio tarddiad y Rhyfel Oer ac ystyried y dadleuon hanesyddol ynglyn a'r rhesymau pam y bu i'r Americanwyr ddefnyddio?r bom atomig yn erbyn Japan ym 1945. Yna bydd y myfyrwyr yn mynd rhagddynt i ystyried y rol a chwaraewyd gan wahanol ranbarthau ym mlynyddoedd cynnar y Rhyfel Oer, ac effaith ymgiprys militaraidd, economaidd ac ideolegol yr archbwerau ar Ewrop, Asia a chyn-drefedigaethau'r Trydydd Byd a?r Dwyrain Canol. Bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio'n glos ar ddigwyddiadau allweddol megis y Chwyldro Comiwnyddol yn China, Rhyfel Korea, tarddiad y gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Arabiaid a Rhyfel Vietnam. Bydd deinameg detente a rheolaeth arfau yn cael eu trafod a bydd y modiwl yn gorffen drwy archwilio'r dadleuon yn ymwneud a?r rhesymau pam y death y Rhyfel Oer i ben a dymchweliad rheolaeth y Blaid Gomiwnyddol yn Nwyrain Ewrop.

Transferable skills

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, a sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi?r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Notes

This module is at CQFW Level 4