Module Identifier GW11120  
Module Title CYMRU YN EWROP  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Ms Elin Royles  
Semester Semester 2  
Mutually Exclusive IP10120  
Course delivery Lecture   18 Hours (18 x 1 awr)  
  Seminars / Tutorials   8 Hours (8 x 1 awr)  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Supplementary Exam Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Ar ol iddynt gwblhau''r modiwl, dylai''r myfyrwyr allu:

- Gwerthuso datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru a''u lleoli o fewn i fframwaith eangach gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
- Feddu gwybodaeth gyflawn o hanes sylfaenol, sefydliadau, ymarfer gwleidyddiaeth a ffurfio polisiau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a''r Undeb Ewropeaidd, a''r cyd-berthnasau rhwng y lefelau hyn.
- Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o brif faterion damcaniaethol a chysyniadol ar wahanol lefelau llywodraeth a''r rhyngweithiad rhwng y lefelau hyn.
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Brief description

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i fyfyrwyr i hanes, sefydliadau allweddol ac ymarfer cyfoes gwleidyddiaeth yng Nghymru, Prydain a'r Undeb Ewropeaidd.

Aims

Prif amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i hanes, sefydliadau a pholisi ac ymarfer gwleidyddiaetrh yng Nghymru a'u lleoli yng nghyd-destun y Wladwriaeth Brydeinig a Gwleidyddiaeth Ewropeaidd. Felly, mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad cyffredinol I'r drefn wleidyddol yn y wladwriaeth Brydeining a'r sefydliadau Ewropeaidd. Y modiwl hwn yw modiwl craidd rhan un ar gyfer y cynlluniau gradd newydd mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru. Felly, mae'n cyfrannu at bortffolio'r adran o fodiwlau ar Wleidyddiaeth Gymreig, tra'n cynnal yn ogystal yr ymrwymiad i ddarparu modiwlau israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Content

Yn dilyn cyflwyniad i hanes, sefydliadau ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, bydd y modiwl yn mynd rhagddo i werthuso hanes, sefydliadau, polisi ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel y Wladwriaeth Brydeiniig. Mae ail ran y modiwl yn canolbwyntio?n benodol ar leoli gwleidyddiaeth Gymreig gyfoes o fewn i'r cyd-destun hwn. Bydd yn canolbwyntio?n benodol ar hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru a datblygiad y sefydliadau gwleidyddol, cyn symud ymlaen i drafod effaith datganoli a chreu'r Cynulliad Cenedlaethol i Gymru ar ymarfer gwleidyddol ac ar greu polisiau yng Nghymru. Yn olaf bydd yn pwyso a mesur yn feirniadol rol Cymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, a'r materion cysyniadol a damcaniaethol perthnasol sy'n angenrheidiol wrth werthuso'r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop

Transferable skills

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Notes

This module is at CQFW Level 4