Cod y Modiwl GW30420  
Teitl y Modiwl CYSYNIADAU ALLWEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Jonathan M Joseph  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Elin Royles  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (18 x 1 awr)  
  Eraill   4 Awr Bord Gron: 4 cyfarfod x 1awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  50%
Asesiad Semester Traethodau: 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau?r modiwl hwn bydd gan fyfyrwyr fwy o ymwybyddiaeth o amryw ystyron a sut y defnyddir cysyniadau allweddol wrth ddadansoddi gwleidyddiaeth. Datblygir y gallu i gymhwyso?r sgiliau hyn i feysydd ymarferol a damcaniaethau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cysyniadol y gellir eu defnyddio wrth ysgrifennu traethodau uwch, ac wrth ymchwilio i draethawd estynedig y drydedd flwyddyn a?i ysgrifennu.   

Disgrifiad cryno

Prif amcan y modiwl hwn yw cynnig i fyfyrwyr sgiliau uwch wrth ddadansoddi cysyniadau, a chynnig hyfforddiant i roi?r sgiliau hyn ar waith mewn meysydd ymarferol a damcaniaethol wrth astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Mae?r modiwl yn cynnig cyflwyniad uwch i gysyniadau allweddol yng ngwahanol feysydd gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys astudiaethau strategol a diogelwch, hanes rhyngwladol, economi wleidyddol ryngwladol, a safbwyntiau normadol. Bydd myfyrwyr yn astudio ystyr cysyniadau allweddol yn fanwl. Mae?r modiwl hefyd yn cynnig sgiliau meddwl am y cysylltiad rhwng meysydd amrywiol yr astudiaeth gyfoes o wleidyddiaeth.

Cynnwys

Pedair rhan sydd i?r modiwl. Mae?r rhan gyntaf yn gofyn a yw dyfodol gwleidyddiaeth y byd wedi ei dynghedu i ailadrodd y gorffennol, yn fwyaf canolog wrth weld cynnydd a chwymp pwerau mawrion. Mae?r ail ran yn ystyried y defnydd o rym yn y byd modern, gan ofyn a ydyw syniadau bod grym yn perthyn i oes a fu yn awgrymu bod cydweithredu rhyngwladol yn disodli rhyfel a gwrthdaro. Mae?r drydedd ran yn gofyn a yw anghydraddoldeb byd-eang yn rhwym o gynyddu yn y dyfodol, neu a ellid ei leihau eto. Mae?r bedwaredd ran yn astudio dyfodol sofraniaeth genedlaethol o ystyried datblygiad diwylliant hawliau dynol byd-eang, ac ymyrraeth ddyngarol a allai fynd yn norm cynyddol.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau dadansoddi y gellir eu defnyddio mewn sawl maes mewn swydd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu crynodeb byr o?r traethawd, a fydd yn helpu i ddatblygu?r sgil o grynhoi?n eglur ddadleuon cymhleth. Bydd arholiad terfynol yn datblygu?r gallu i ysgrifennu datganiadau cryno dan bwysau am feysydd sy?n cynnwys sawl mater.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
John Baylis and Steve Smith The Globalisation of World Politics: Cambridge 2001. Cambridge University Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC