Cod y Modiwl GWM1530  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH A CHYMDEITHAS CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Richard W Jones  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr 1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar:  10%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs: 1 x Ysgrif adolygiadol 1,000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Traethodau: 1 x 2,000 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau''r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- Deall, dadansoddi, trafod a gwerthuso''r prif safbwyntiau yn y dadleuon deallusol rheini sy''n ceisio dirnad goleuni ar natur gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru;
- Gwerthuso''r dadleuon hyn yng ngoleuni tystiolaeth empiraidd berthnasol, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol; a,
- Dirnad nodweddion y sefyllfa Gymreig - a''r trafodaeth ynglyn a''r sefyllfa hon - o fewn cyd-destun cymharol ehangach.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cynnig gor-olwg o'r cyd-destun cymdeithasegol, gwleidyddol a cyfansoddiadol i fywyd yn y Gymru gyfoes. Modiwl craidd i'r sawl sy'n dilyn y rhaglen 'Arbennigol'.

Nod

Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall, dadansoddi a gwerthuso'r canlynol:

- y prif safbwyntiau yn y dadleuon deallusol rheini sy'n ceisio dirnad goleuni ar natur gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru;
- swmp a gwerth y dadleuon hyn yng ngoleuni tystiolaeth empiraidd berthnasol, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol; a,
- nodweddion y sefyllfa Gymreig - a'r trafodaeth ynglyn a'r sefyllfa hon - o'r osod cyd-destun cymharol ehangach.

Cynnwys

Gan gyfuno ystyriaeth o'r dystiolaeth empiraidd hefo astudiaeth fanwl o ddadleuon a thrafodaethau mwy cysyniadol eu naws, bwrir golwg feirniadol ar gwestiynau canolog ynglyn a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Yn eu plith ystyrir: datblygiad sefyliadol; esblygiad y gyfundrefn bleidiol; statws economaidd ymylol Cymru; y berthynas gymleth (ddilechdidol?) rhwng integreiddio a datganoli; y berthynas rhwng dosbarth, cenedligrwydd a gwerthoedd cymdeithsasol (y 'traddodiad radicalaidd'); patrymau hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru; lleoliad grym; a gwahaniaethau rhanbarthol oddi mewn i Gymru. Drwy'r cyfan cyfeirir at dystiolaeth gymharol er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa Gymreig.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, a, lle bo hynny'n briodol, i ddeall arwyddocad rhifau syml. Ceir cyfle yn y seminarau i wella sgiliau gwrando, dadansoddi a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Bydd yr ysgrifau adolygiadol yn fodd i feithrin sgiliau dadansoddi a chyfathrebu. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.

15 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Kenneth O Morgan Rebirth of a Nation
Gwyn A Williams When Was Wales?
Michael Hechter Internal Colonialism
Tom Nairn Break-up of Britain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC