Cod y Modiwl HA10720  
Teitl y Modiwl YR OES DARGANFOD: GORESGYN GWLEDYDD AMERICA: 1492 - 1620  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Karen Stober  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HY10720  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Meddiannu ac adolygu?n feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod y traddodiad Ewropeaidd o fordeithiau darganfod, gan canolbwyntio yn arbennig ar ddarganfyddiad a goresgyniad De America, Canolbarth America, a Mexico, o fewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.   

2. Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o?r testunau dan sylw, o?r Oesoedd Canol hyd heddiw.

3. Meddiannu yr effaith parhaol o ymsefydliad Ewropeaidd yn Ne America, Canolbarth America a Mexico.

4. Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol gan gynnwys tystiolaeth lenyddol.

5. Amgyffred y dadleuon hanesyddol sy?n ymwneud ag effaith ymsefydlu Ewropeaidd ar gymdeithas brodorol America.

6. Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd.

7. Gweithio?n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr?p (heb ei asesu?n ffurfiol).

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddarganfod a goresgyn De America a Chanolbarth America, a Mexico, ac yn trafod gyrfaoedd unigolion fel Columbus a Cortes. Bydd felly yn cyflwyno hanes America cyn y goresgyniad tra?n canolbwyntio?n bennaf ar yr Asteciaid, y Maias a?r Incas, ac yn asesu dylanwad y cysylltiadau rhwng y concwistadoriaid a?r sawl a oresgynwyd. Bydd canlyniadau?r asesiad hwn yn cael eu hystyried yn eu cyd-destun ehangach o gysylltiadau rhwng pobl a diwylliannau.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r traddodiad Ewropeaidd o fordeithiau darganfod yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a?r cyfnod modern cynnar, gan ganolbwyntio ar oresgyniad yr Amerig yn ystod y bymthegfed ganrif hyd yr ail ganrif ar bymtheg. Bydd y modiwl felly yn cwmpasu maes dysgu yn yr adran sydd heb ei gynnig ar hyn o bryd, ac sydd felly yn ehangu'r dewis o gyrsiau, yn ogystal a chyflwyno myfyrwyr i hanes yr Oesoedd Canol a?r cyfnod modern cynnar. Bydd y modiwl hefyd yn edrych tu hwnt i gyffiniau?r Byd Cristnogol gan drafod materion sy'n parhau yn berthnasol o hyd, megis ymsefydlu croesddiwylliannol.

Cynnwys

1. Cyflwyniad I: Y traddodiad Ewropeaidd o fordeithiau darganfod cyn Columbus
2. Cyflwyniad II: Ewrop yn ystod y bymthegfed ganrif
3. Columbus I: Y fordaith cyntaf
4. Columbus II: Mordeithiau dilynol
5. Yr ymateb yn Ewrop
6. Yr Asteciaid
7. Y Maias
8. Goresgyn Mexico I
9. Goresgyn Mexico II
10. Troedigaethau
11. Caethiwed
12. Yr Incas a?u hynafiaid
13. Goresgyn Peru I: Cajamarca
14. Goresgyn Peru II: Cuzco
15. Goresgyn Peru III: Wedi?r goresgyn
16. Defnyddio adnoddau?r tir: Bolivia - Potosi
17. Brasil wedi ei gwladychu
18. Casgliadau: goresgyniadau

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC