Cod y Modiwl HA12120  
Teitl y Modiwl CYFLWYNO HANES  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Martyn J Powell  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Miss Karen Stober  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   5 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 5 seminar (2 awr yr un)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester ymarferiad precis: 1,000 gair (30%); un ymarferiad llyfryddiaethol: 1,500 gair (20%); un prosiect byr: 2,000 gair (50%)100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau?r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru
a)   gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol
b)   darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol
c)   cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil
ch) mynd i?r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol
d)   dangos eu bod wedi mynd i?r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn   gwaith ysgrifenedig (asesedig)
dd) myfyrio?n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa   mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau   

Disgrifiad cryno

Amcan y cwrs hwn yw rhoi i?r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o?r `sgiliau? pwysicaf, er mor sylfaenol ydynt, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Trwy gyfres o seminarau cyflwynir i?r myfyrwyr amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol sydd yn ymwneud ag astudiaethau israddedig yn ogystal ag arferion yr hanesydd. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at y dull hwn sy?n seiliedig ar sgiliau ac yn nodi?n fras y materion hynny sy?n ganolog i waith yr hanesydd.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
A. Northedge (1990) The good study guide
M. Abbott (gol) (1996) History skills: a student?s handbook
R. Barnes (1992) Successful Study for Degrees
M. Stanford (1994) A companion to the study of history
B. Southgate (1996) History, what and why?: ancient, modern, and postmodern perspectives
J Clanchy & B Ballard (goln) (1992) How to write essays: a practical guide for students
M. Reeves (1980) Why History?
J. Appleby, L. Hunt & M Jacobs (goln) (1994) Telling the truth about history
J. Tosh (1991) The pursuit of history 2il.
G. R. Elton (1969) The practice of history
E.H. Carr What is history?

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC