Cod y Modiwl HA36830  
Teitl y Modiwl MENYWOD A'R BERTHYNAS RHWNG Y RHYWIAU YM MHRYDAIN C1800-C1950  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Steven Thompson  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HY 36830  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR, AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Semester UN TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU, TRAETHAWD ARALL 4,000 O EIRIAU  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu bywydau a phrofiadau menywod yn ystod y cyfnod sydd dan sylw;

Nodi ac esbonio y newidiadau ym mherthynasau y rhywiau ym Mhrydain fodern;

Lleoli profiadau cyfnewidiol menywod a pherthynasau rhwng y rhywiau yng nghefndir ehangach hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Prydain;

Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus.

Disgrifiad cryno

Mae?r cwrs yn arolygu hanes menywod a chysylltiadau?r rhywiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod modern. Mae?n ystyried profiadau amrywiol a chyfnewidiol menywod mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ac mae?n lleoli?r datblygiadau hyn yn hanes ehangach Prydain. Ymhellach, mae?r cwrs yn archwilio?r diffiniadau rhyw cyfnewidiol a?u heffaith ar gysylltiadau?r rhywiau. Lleolir yr agweddau hyn o brofiadau menywod mewn fframwaith amseryddol sydd yn arolygu hanes menywod o ddechrau?r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau?r Ail Ryfel Byd.

Nod

Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy?r Gymraeg yn Rhan Dau. Cyflwynir y myfyrwyr i rai o brif brofiadau menywod ym Mhrydain fodern ac ystyrir syniadau pwysig yngl?n a chysylltiadau?r rhywiau.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad
2. Creu Syniadau Rhywiau yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
3. Menywod a Gwneuthuriad y Dosbarth Gweithiol
4. Menywod a Siartiaeth
5. Ffeministiaeth yn ystod Dechrau?r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
6. Gwaith Addas i Fenywod: Gwaith Menywod yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
7. Rhywioldeb Fictorianaidd
8. Rol y Fenyw mewn Teulu
9. Menywod a Dyngarwch
10. Menywod a Lles yn yr Oes Fictorianaidd a?r Oes Edwardaidd
11. `Dirywiad yr Hil? a Meddygoli Mamolaeth
12. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched
13. Menywod a?r Rhyfel Byd Cyntaf
14. Cysylltiadau?r Rhywiau yn ystod y Dirwasgiad Mawr
15. Yr Ymgyrch dros Atal Cenhedlu
16. Ffeministiaeth yn ystod y Cyfnod Rhwng y Rhyfeloedd
17. Profiadau Menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd
18. Menywod a?r Wladwriaeth Les

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Barbara Caine (1997) English Feminism, 1780-1980
Anna Clark (1995) Struggle for the breeches: Gender and the Making of the British Working
Kathryn Gleadle (1995) The Early Feminists: Radical Unitarians and the Emergence of the Women?s Rights Movement, 1831 - 51
Angela John (gol.) (1991) Our Mothers? Land: Chapters in Welsh Women?s History 1830-1939
Helen Jones (2000) Women in British Public Life, 1914-1950 : Gender, Power, and Social
Jane Lewis (1984) Women in England, 1870-1950: Sexual Divisions and Social Change
Jane Lewis (gol.) (1986) Labour and Love: Women?s Experience of Home and Family 1850-1940
Susan Mendus a Jane Rendall (gol.) (1989) Sexuality and Subordination: Interdisciplinary Studies of Gender in the Nineteenth Century
Martin Pugh (1992) Women and the Women?s Movement in Britain 1914-1959
June Purvis (gol.) (1995) Women?s History: Britain, 1850-1945
Jane Rendall (1990) Women in an Industrialising Society: England 1750-1880
Jane Rendall (1990) The Origins of Modern Feminism: Women in Britain, France, and the United States, 1780-1860

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC