Cod y Modiwl AD31820  
Teitl y Modiwl IAITH MEWN ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Robert Morris Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
  Darlithoedd   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester traethawd 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a dulliau dadansoddiadol ac egwyddorion ieithyddiaeth a chymdeithaseg iaith, sy'n addas ar gyfer archwilio'r berthynas rhwng iaith ac addysg.

Trafod yn feirniadol faterion iaith mewn addysg, gan ddefnyddio egwyddorion a dulliau addas.

Disgrifiad cryno

Archwilir amryw o agweddau ar y berthynas rhwng iaith ac addysg o safbwynt ieithyddiaeth a chymdeithaseg iaith. Trafodir y berthynas rhwng cymdeithaseg iaith yr ysgol a chymdeithaseg iaith y gymuned, ac yn sgil hyn ystyrir dewis mathau o iaith yn y dosbarth. Cyflwynir agweddau ar ddysgu ac addysgu trwy gyfrwng iaith. Trafodir iaith ar y cwricwlwm fel pwnc.

Cynnwys

- Cyflwyniad

- Cyd-destun yr ysgol a'r gymuned yn nhermau cymdeithaseg iaith

- Mathau o iaith yn y dosbarth a'r ddadl am gywirdeb

- Iaith fel cyfrwng dysgu ac addysgu: prosesu ystyron

- Iaith fel cyfrwng dysgu ac addysgu: yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig

- Iaith fel cyfrwng dysgu ac addysgu: syniadau William Labov a Basil Bernstein

- Iaith fel cyfrwng dysgu ac addysgu: disgwrs yn y dosbarth

- Dysgu'r famiaith: y dull traddodiadol.

- Dysgu'r famiaith: ymwybyddiaeth am iaith.

Rhestr Ddarllen

Darllen Rhagarweiniols
STUBBS, Michael (1983) Language, Schools and Classrooms 2nd. London: Methuen
STUBBS, Michael (1986) Educational Linguistics Oxford: Blackwell

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC