Cod y Modiwl | BG10810 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | ECOLEG | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dylan G Jones | |||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Gareth W Griffith, Dr Iain Barber, Yr Athro Peter Wathern | |||||||||||
Rhagofynion | Fel arfer bydd angen Bioleg lefel A neu AS, neu gymhwyster cyfwerth. | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr 22 x darlithoedd 50-munud (gan gynnwys dwy sesiwn adfer) | ||||||||||
Sesiwn Ymarferol | 3 Awr 2 x sesiynau 50-munud mewn darlithfa a 3 awr annibynnol yn y maes | |||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Yn y grwp cyntaf o ddarlithoedd, dadansoddir ynni o fewn ecosystemau gan ganolbwyntio'n benodol ar systemau sy'n dibynnu ar olau haul a phlanhigion gwyrdd, a'r rheiny sy'n dibynnu ar ddefnydd organig marw. Rhoddir pwyslais arbennig ar drosglwyddo ynni rhwng lefelau troffig gwahanol. Mae trosglwyddo ynni drwy ddefnydd organig yn golygu hefyd, yn anochel, drosglwyddo defnyddiau (maetholion, yn bennaf, ond hefyd sylweddau eraill megis llygryddion) rhwng cydrannau ecosystemau. Dadansoddir cylchu maetholion o fewn systemau gyda phwyslais ar rol allweddol priddoedd. Mae'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng llystyfiant a phriddoedd yn cael dylanwad cryf ar y broses hon.
Mae natur y pridd yn ddim ond un ymhlith llawer o ffactorau sy'n effeithio ar ddosraniad gofodol planhigion ac anifeiliaid. Trafodir ystod y ffactorau anfiotig wrth ddechrau'r grwp nesaf o ddarlithoedd, cyn symud ymlaen i drafod ffactorau biotig, yn enwedig ysglyfaethu a chystadlu. Mae ysglyfaethu yn un o'r ffactorau sy'n cyfyngu poblogaethau ac yn eu hatal rhag tyfu'n esbonyddol, anfeidraidd; mae cystadlu am adnoddau yn ffactor arall sydd yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudio'r modd mae rhywogaethau'n defnyddio adnoddau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a hwnnw'n cael ei ddiffinio fel arfer fel y gilfach (niche). Serch hynny, bydd rhywogaethau'n dangos yn aml addasiadau penodol ar gyfer sefyllfaoedd arbennig o fewn eu dosraniad; trafodir enghreifftiau o'r fath amrywiaeth ecoteipaidd.
Mae yna rai agweddau ar ecoleg rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid, serch hynny, y gellid eu deall orau drwy astudio eu hawtecoleg. Defnyddir rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid i egluro cysyniad awtecoleg.
Y thema olaf i gael ei thrafod yn y modiwl yw'r newid mewn ecosystemau gydag amser, yr hyn sy'n cael ei alw'n olyniaeth. Mae'r cwestiwn a oes modd rhagfynegi'r olyniaethau hyn ai peidio, a chwestiynau ynghylch beth sy'n gyrru'r newidiadau, wedi bod yn bynciau llosg ers amser maith. Trafodir enghreifftiau o olyniaethau, a'r damcaniaethau cystadleuol a geid yn eu cylch.
Yn ogystal a'r darlithoedd theori bydd hefyd gydran ymarferol, drwy arolwg adar ar-lein Aberystwyth. Bydd myfyrwyr yn casglu data dros gyfnod o dair awr ar adeg benodol yn ystod y tymor, yn agos at eu cartrefi. I sicrhau adnabyddiaeth gywir, cynhelir prawf sy'n cynnwys 30 rhywogaeth sy'n gyffredin yn yr ardal leol. Bydd myfyrwyr wedyn yn rhoi'r data i mewn i gronfa ddata ar y We ac yn dadansoddi'r data drwy adroddiad/holiadur byr.
Manylion pellach: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/modiwlau/ecoleg.htm
Rhestr o dermau Cymraeg ar gyfer Ecoleg: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/termau.htm
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC