| Cod y Modiwl | BG22920 | ||||||||||||||
| Teitl y Modiwl | ADNABOD PLANHIGION AC ECOLEG CYMUNEDOL | ||||||||||||||
| Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | ||||||||||||||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dylan G Jones | ||||||||||||||
| Semester | Semester 2 | ||||||||||||||
| Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Peter Wathern | ||||||||||||||
| Rhagofynion | BS10810 , BS11810 | ||||||||||||||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr | |||||||||||||
| Eraill | Gwaith maes: 6 diwrnod | ||||||||||||||
| Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||
Mae'r ddau'n adlewyrchu patrwm yr adnoddau a'r cyfyngiadau a geir o fewn tirwedd benodol, yn nhermau amser a gofod. I bob diben, gall tirweddau ymddwyn fel `archsystemau?. Mae cysylltedd yn bwysig o ran sut mae tirweddau integredig yn gweithio, ac fe all poblogaethau o rywogaethau unigol, yn hytrach na bod wedi'u hynysu, ffurfio metapoblogaethau sy'n cyfrannu at eu sefydlogrwydd tymor hir.
Mae ail ran y modiwl yn ymdrin a newidiadau mewn poblogaethau dros amser. Nid ydynt yn aros yn llonydd, ond yn hytrach yn newid, a hynny yn aml mewn ffyrdd y mae modd (yn ol pob golwg) eu rhagweld. Gall y newidiadau gael eu gyrru gan ddilyniant y rhywogaethau sy'n bresennol (awtogenig) neu gan amodau amgylcheddol sy'n newid gydag amser (alogenig). Awgrymwyd y ddamcaniaeth `cymhareb adnoddau? fel peirianwaith ar gyfer llystyfiant uchafbwyntiol, ond gwelir diweddpwyntiau newid lluosol mewn llawer o ardaloedd.
Gall ffenomena dynol, a ffenomena naturiol, effeithio ar gymunedau planhigion. Gall anifeiliaid, wrth bori, ddangos lefel uchel o arbenigaeth wrth lunio cyfansoddiad cymunedau planhigion, tra bydd tan naturiol yn dileu biomas mewn llawer o dirweddau. Gall defnydd dynol olygu math syml o ddileu biomas, megis mewn systemau gwair; neu fe all fod yn ddetholus, gan ganolbwyntio ar rywogaethau penodol neu grwpiau penodol o unigolion (megis rhai sydd tua'r un maint a'i gilydd) ar gyfer rhyw ddefnydd arbennig, a thrwy hyn, bydd yn effeithio ar natur y gymuned. Yn olaf, trafodir disgrifiadau o gymunedau planhigion a'u dosbarthiad gofodol, o ran dulliau rhifol (dosraniad a dosbarthiad) a dulliau llysgymdeithasegol disgrifiadol (wedi'u cynrychioli gan NVC).
Disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a chwrs maes pum diwrnod i ddatblygu'r wybodaeth arbenigol ar gyfer adnabod rhywogaethau planhigion mewn ystod eang o gynefinoedd Cymreig gwahanol (e.e. twyni tywod, gwrychoedd, glaswelltiroedd mesotroffig a choetiroedd collddail). Disgwylir iddynt hefyd gwblhau darluniau gwyddonol manwl o wahanol rywogaethau a gesglir yn ystod y cwrs, gan amlygu nodweddion penodol a ddefnyddir ar gyfer adnabyddiaeth. Bydd yr wybodaeth adnabyddiaeth o bob lleoliad yn cael ei datblygu ar ffurf arolygon ac yn cael ei dehongli yn ol y System Ddosbarthu Planhigion Genedlaethol. Yn ystod y ddau ddiwrnod olaf bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth gwblhau prosiect byr ym maes dosbarthiad / ecoleg planhigion.
Bydd y cwrs yn cael ei redeg mewn cydweithrediad a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin (http://www.gardenofwales.org.uk) ac fe fydd yn cynnwys ymweliad a'r Ardd i ddysgu mwy am gymunedau planhigion yng Nghymru ac yn ardal Mor y Canoldir.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC