Cod y Modiwl BGM8910  
Teitl y Modiwl CYNALADWYEDD AMGYLCHEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Dylan G Jones  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   14 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester1.5 Awr Arholiad ddiwedd semester: Cwestiwn traethawd  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar a chrynodeb cynhadledd (15 munud)  20%
Asesiad Semester Ymarfer gwe (i gael ei farcio yn electronig)  20%
Asesiad Semester Datganiadau amgylcheddol  20%
Arholiad Ailsefyll1.5 Awr Arholiad ailsefyll (1.5 awr)  40%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno gwaith cwrs sydd wedi methu  60%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
bydd gan fyfyrwyr wybodaeth eang am bynciau sy?n ymwneud ag effaith dyn ar y blaned (yn lleol ac ar raddfa fyd-eang)

bydd myfyrwyr yn ymwybodol o (ddeddfwriaeth) gyfrifoldeb amgylcheddol

bydd myfyrwyr yn gallu cynnig datrysiadau i wella effeithlonrwydd amgylcheddol ar lefel lleol (yn enwedig yn amgylchedd busnes)

bydd myfyrwyr yn gallu ymdrin a chyllidebau carbon, sylweddoli cyfrifoldeb amgylcheddol a chynnig dulliau o leihau a gwrthbwyso allyriannau carbon.

bydd myfyrwyr yn hyderus wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gywir ac yn eglur, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Nod

Mae?r modiwl yn gosod sylfeini generig rhagorol ym maes effeithlonrwydd amgylcheddol, a hynny?n berthnasol i nifer o gynlluniau gradd lefel Meistr o fewn cyfadrannau?r Celfyddydau a?r Gwyddorau. Agwedd bwysig arall yw?r ffaith ei fod hefyd yn ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth i `wyrddio? cwricwlwm y prifysgolion.

Disgrifiad cryno

Mae hwn yn fodiwl newydd sy?n ymdrin a chyfrifoldeb amgylcheddol, effaith dyn ar y blaned a?r angen cynyddol i fyw?n fwy cynaliadwy. Drwy ddeunydd darlithoedd sy?n esbonio?r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Cynnwys

Mae?r modiwl yn cynnwys newid hinsawdd, llygredd, iechyd a defnydd adnoddau naturiol. Cyflwynir sefyllfaoedd enghreifftiol a datrysiadau, o newidiadau mewn ymddygiad i ddefnydd amgen o egni, a hynny ar lefel yr unigolyn, ar lefel cymdeithas, ac ar lefel byd-eang. Rhoddir cyngor ymarferol i hybu effeithlonrwydd amgylcheddol yn y cartref ac yn y gweithle. Mae?r modiwl, felly, yn darparu sgiliau galwedigaethol rhagorol sy?n pontio?r bwlch pwysig rhwng theori ac arfer yn y gwyddorau amgylcheddol.
Mae ethos y modiwl yn golygu bod rhaid i?r dulliau dysgu fod yn effeithlon o safbwynt yr amgylchedd. Darperir darlithoedd ar y We (drwy Blackboard) ac mae?r deunydd yn cynnwys sgriptiau darlithoedd hunanddysgu, pecyn gwybodaeth ar y We, a chod dysgu amgylcheddol. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio?r strwythur hwn i fynd drwy ddeunydd y darlithoedd ar eu cyflymdra eu hunain. Bydd adnoddau gwe cymeradwyedig, a phapurau perthnasol ar ffurf ffeiliau pdf, hefyd yn cael eu rhoi ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod a syntheseiddio deunydd y darlithoedd mewn tiwtorialau a gweithdai sy?n gysylltiedig a?r darlithoedd hynny. Mae?r modiwl hefyd yn cynnwys ysgrifennu datganiadau amgylcheddol a chyflwyniad amgylcheddol sy?n seiliedig ar nifer o astudiaethau achos. Bydd ymarfer gwe `cyllideb carbon? yn rhoi i fyfyrwyr y dasg o wella effeithlonrwydd amgylcheddol mewn sefyllfa fusnes gyffredin. Drwy ddeunydd darlithoedd sy?n esbonio?r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.

Rhestr Ddarllen

Erthygls
Wastebusters Ltd (2000) The Green Office Manual p306 2nd edition. Earthscan publications
R Murray (2002) Zero Waste GReen p211 Environmental Trust publications
E Harland (2002) Eco-renovation p242 Green Books Publications

Tudalen/Safle Ar Y Wes
http://cat.org.uk/
http://www.lsda.org.uk/Sustainable/Toolkit/

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC