Cod y Modiwl CC39030  
Teitl y Modiwl PROSIECT HIR  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Jem Rowland  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Mae'r modiwl hwn ar gael i holl fyfyrwyr gradd yr Adran.  
Elfennau Anghymharus CS39030, CI39030 & CS39110  
Manylion y cyrsiau Eraill   Prosiect dan oruchwyliaeth. Nid oes darlithoedd yn gysylltiedig a'r modiwl hwn.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Prosiect Hir: Bydd angen o leiaf 40% yn CC39030 ar gyfer gradd anrhydedd  100%
Arholiad Ailsefyll Bydd yn dilyn yr un ffurf, yn unol a pholisi'r Adran. Ni fydd gan ymgeiswyr sy'n ailsefyll yr hawl i gael achredu BCS.   
Further details http://www.aber.ac.uk/compsci/ModuleInfo/CC39030  

Canlyniadau dysgu

O gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr fod wedi:


Nod

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau darn sylweddol o waith, dan gyfarwyddyd arolygwr ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefnusrwydd a meddwl annibynnol. Bydd prosiect nodweddiadol yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o ddatganiad cychwynnol o ofynion drwy'r camau manylu a chynllunio, hyd at weithredu a phrofi llwyddiannus. I fyfyrwyr sydd a chefndir addas, gall y prosiect gynnwys elfen o galedwedd.

Pwrpas y prosiect CC39030 yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddwyn ynghyd y sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol y maent wedi eu meithrin, trwy ddatblygu cynnyrch cyflawn, o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys paratoi dogfennau addas, gan gynnwys dogfennau'r penderfyniadau a wnaed am y cynllun.

Mae rhestr o brosiectau posibl yn cael ei chadw a'i chynnal gan gyd-gysylltydd y drydedd flwyddyn. Fel arfer, dewisir prosiectau o'r rhestr hon ond rydym yn croesawu awgrymiadau gan fyfyrwyr, yn enwedig y rheiny sy'n deillio o'r flwyddyn mewn gwaith.

(Nid anogir myfyrwyr Anrhydedd Cyfun i wneud prosiect CC39030 fel arfer, ond yn hytrach cynigir prosiect CS3910 iddynt fel nad ydynt yn brin o fodiwlau trwy gwrs.)

Cynnwys

Nid oes darlithoedd ffurfiol yn gysylltiedig a'r prosiect hwn.

2. Deunydd ysgrifenedig

Mae'r adran yn darparu amrywiaeth o ddeunydd ysgrifenedig ar sut i wneud y prosiect, ystyriaethau ynglyn ag asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr dreulio o bosibl ddeg awr o wythnos nodweddiadol ar y prosiect ac i weld eu harolygwr unwaith yr wythnos. Fe asesir y cwrs ar sail technegrwydd yr hyn a gyflawnir, yn ol tystiolaeth y sesiynau poster, arddangosfa prosiect ffurfiol, ac adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC