Cod y Modiwl CF37520  
Teitl y Modiwl DATBLYGIAD MEDDYGAETH FODERN, C.1750-2000  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Steven Thompson  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HA37530 , HY37530  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%
Arholiad Ailsefyll ARHOLIAD CAEEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL   

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America

Adolygu'n feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a'r gwasanaethau iechyd

Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl gyffredin

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus

Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar

Gweithio'n annibynnol ac fel rhan o grwp

Disgrifiad cryno

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Byddant yn archwilio sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau'r Dadeni o reswm, rhesymoledd a'r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol yng nghyd-destun twf y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianmu a threfoli Prydain

Nod

Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy'r Gymraeg yn Rhan Dau

Cynnwys

1. Clio a'r Meddygon: Hanesyddiaeth Meddygaeth.
2. Y Farchnadfa Feddygol yn y Ddeunawfed Ganrif.
3. Hanes Meddygol 'oddi isod': Syniadau Lleyg y Corff ac Iechyd.
4. 'Geni y Clinig': Hanes Ysbytai.
5. Meddygon, Cenedl a Menywod.
6. Addysg Feddygol.
7. Proffesiynoli ac Arbenigaeth Feddygol.
8. Cyfundrefnau Meddygaeth Amgen yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
9. 'Satanic Mills': Diwydiannu, Trefoli a Iechyd Cyhoeddus.
10. Gwallgofrwydd a Chymdeithas.
11. Theori Cell, Bacterioleg a Thwf y Theori Germ.
12. Gofal Cynradd.
13. Imperialaeth a Lledaeniad Meddygaeth Orllewinol.
14. Gwrthwynebiad i Feddygaeth Wyddonol.
15. Gwyddor Ewgenig yn yr Ugeinfed Ganrif.
16. Meddygaeth a Rhyfel.
17. Meddygaeth a'r Wladwriaeth yn yr Ugeinfed Ganrif.
18. Buddugoliaeth Meddygaeth Orllewinol ers yr Ail Ryfel Byd

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC