Cod y Modiwl CY12420  
Teitl y Modiwl CYFRYNGAU DIWYLLIANT  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Gruffydd A Williams  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Traethodau: (c.3,000 o eiriau)30%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau''''r modiwl dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o ddatblygiad hanesyddol y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo''''r diwylliant Cymraeg drwy''''r oesoedd. Byddant yn gyfarwydd ag agweddau a fyddai fel arall yn ddieithr iddynt (e.e. y traddodiad llafar, arysgrifau, llawysgrifau.) Byddant yn gallu arddangos gwybodaeth o''''r amodau materol a bennodd i raddau ddatblygiad ac ansawdd y diwylliant a fynegwyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn bwrw golwg ar y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd: edrychir ar y traddodiad llafar (fel cyfrwng i drosglwyddo barddoniaeth a chyfarwyddyd), ar ymddangosiad y llyfr print a datblygiad cyhoeddi yn y Gymraeg, ar y faled, ar ymddangosiad papurau newydd a chylchgronau yn y ganrif ddiwethaf, ac ar ddatblygiad y cyfryngau modern (recordiau sain, radio, ffilm a theledu a chyfryngau electronig diweddar).

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC