Cod y Modiwl CY31520  
Teitl y Modiwl CERDDI'R GOGYNFEIRDD C.1100-1370  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged E Haycock  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEY CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwn y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith  
Cyd-Ofynion CY332020 NEU CY33120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   11 Awr Seminarau. dosbarth testunol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  75%
Asesiad Semester Traethodau: 3,000 o eiriau  25%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Byddwch yn gyfarwydd â''''''''r prif fathau o gerddi a gyfansoddwyd gan y Gogynfeirdd, ac â''''''''r beirdd pwysicaf.

2. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am gefndir hanesyddol a diwylliannol y cerddi, yn enwedig am fywyd y llys yn y ddeuddegfed a''''''''r drydedd ganrif ar ddeg.

3. Bydd gennych ddealltwriaeth o natur a phwrpas gwleidyddol y canu mawl seciwlar, ac o amcanion canu crefyddol y cyfnod, ac fe fyddwch yn medru lleoli''''''''r genres hyn yn nghyd-destun llenyddiaeth Ewrop.

4. Byddwch yn medru darllen detholiad o destunau yn y gwreiddiol (gyda chymorth nodiadau), ac yn medru trosi i Gymraeg Modern rai darnau dethol.

5. Byddwch wedi dysgu sut i ddadansoddi detholiad o gerddi astrus o safbwynt eu hiaith a''''''''u mydr a''''''''u harddull, ac fe fyddwch yn gallu trafod eu gwerth artistig.


Disgrifiad cryno

Astudiaeth o gerddi'r Gogynfeirdd: bydd y pwyslais ar fawl a marwnad y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg. Edrychir hefyd ar y canu crefyddol a'r canu i ferched.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC