Cod y Modiwl CY35420  
Teitl y Modiwl BARDDONIAETH TRI CHWARTER CANRIF, 1900-79  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Theodore R Chapman  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  75%
Asesiad Semester Traethawd: 3,000 o eiriau  25%
Arholiad Ailsefyll2 Awr  75%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod yn feirniadol waith prif feirdd y cyfnod dan sylw

Deall y gweithiau hyn yn eu cyd-destun llenyddol a chymdeithasol ehangach

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gwaith dan sylw gan ddefnyddio ystod o dechnegau beirniadol

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad amseryddol bras i brif feirdd a mudiadau llenyddol y cyfnod 1900-79. Bydd yn gosod y beirdd hyn yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Y bwriad yw cynnig arolwg o'r cyfnod trwy ganolbwyntio ar feirdd nodedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC