Cod y Modiwl DA35020  
Teitl y Modiwl DAEAR Y WLAD,CENEDLAETHOLDEB, A DIWILLIANNAU LLEIAFRIFOL  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 1  
Rhagofynion  
Elfennau Anghymharus GG35020  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 (cyfuniad o ddarlith a seminar)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad dwy awr50%
Asesiad Semester Traethodau: Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau. Dau draethawd iw cyflwyno yn wythnosau 6 a 11.40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar:  10%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) ar traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwynor gwaith bydd cyfle i gyflwynor elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol ir rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau''''r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn medru (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio natur y wladwriaeth a chenedlaetholdeb; (2) dangos eu dealltwriaeth o''''r rhyng-berthynas agos rhwng y wladwriaeth fodern a chenedlaetholdeb; (3) mynegu ymwybyddiaeth eang am natur diwylliannau lleiafrifol ledled y byd, ynghyd a gwerthfawrogi y gwahaniaethau a''''r tebygrwydd sydd rhyngddynt; (4) dod a themau''''r cwrs a''''r darllen craidd at ei gilydd; (5) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a''''u clymu i mewn i brif themau y cwrs.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o gysyniadau sydd yn ymwneud a natur y wladwriaeth, cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i werthfawrogi patrymau a phrosesau rhanbarthol a chenedlaethol yn y maes hwn sydd yn digwydd ledled y byd. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu dadansoddol, cymharol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr.

Cynnwys

Cyflwyniad
Sesiwn 1: Cyflwyniad i'r themau sydd yn cael eu harchwilio.

Y wladwriaeth
Sesiwn 2: Diffiniadau a ffurfiant y wladwriaeth gynnar.

Sesiynau 3-6: Y wladwriaeth fodern. Archwilir diffiniadau gwahanol o'r wladwriaeth fodern, yn ogystal a nodi enghreifftiau penodol o natur yr endid hwn.

Cenedlaetholdeb
Sesiynau 7-8: Cysyniadau cenedlaetholdeb hanesyddol a modern.

Sesiynau 9-11: Enghreifftiau modern o fuddiannau a phroblemau cenedlaetholdeb

Diwylliannau lleiafrifol
Sesiwn 12: Y cysyniad o ddiwylliant lleiafrifol.

Sesiynau 13-17: Enghreifftiau hanesyddol a modern penodol yn archwilio natur diwylliannau lleiafrifol.

Sesiwn 18: Casgliad a thrafodaeth.

Rhestr Ddarllen

Erthygls
Anderson, J. (1996) 'The shifting stage of politics: new medieval and postmodern territorialites' Society and Space 14, 133-53
Taylor, P.J. (1995) 'Beyond containers: internationality, interstateness, inter-territoriality' Progress in Human Geography 19(1), 1-15.
Hall, S. (1995) 'Cultural identity in question' in S. Hall et al. (eds.), Modenity and its Futures. Polity Press, Cambridge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC