Cod y Modiwl DD10620  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU THEATR  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Sesiwn Ymarferol   20 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Dau ddarlleniad ymarferol rhagbaratoedig, gwerth 15% or asesiad yr un.30%
Asesiad Semester Sylwebaeth 2000 o eiriau ar destun gosod.30%
Asesiad Semester Sylwebaeth ymarferol mewn grwp yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd.40%
Arholiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwyno'r gwaith a fethwyd: Gofynir i unrhyw fyfyrwyr sy'n methu'r cyflwyniad rwp ail-gyflwyno prosiect unigol a fydd yn dilyn briff a osodir gan diwtor y modiwl.100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
  1. CYFLWYNO DARLLENIAD O'R TESTUNAU GOSOD MEWN FFORDD SY'N AMLYGU EU CREFFT A'U DIDDORDEB DRAMATAIDD
  2. ARDDANGOS DEALLTWRIAETH O'R TESTUNAU GOSOD FEL DIGWYDDIADAU THEATRAIDD
  3. ARDDANGOS GALLU I GYFLAWNI TASGAU YMCHWIL LLWYDDIANNUS FEL FFORDD O GEISIO DATRYS PROBLEMAU CYMERIADU, LLWYFANNU A.Y.B.


Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, trafodir pum testun gosod, gan ganolbwyntio yn gyntaf oll ar eu deinameg ac effeithioldeb cynhenid fel drama, cyn symud ymlaen i ystyried eu nodweddion a'u swyddogaeth fel theatr. Rhydd y sesiynau gweithdy ymarferol gyfle i'r myfyrwyr archwilio a datblygu eu hymdriniaeth o'r testunau fel digwyddiadau byw. Rhydd y darlithoedd gyfle i'r myfyrwyr ddarganfod pwysigrwydd ymchwil hanesyddol fel ffordd o werthfawrogi arwyddocad cyfoes y testunau fel digwyddiadau theatraidd.

Cynnwys

Trefn arfaethedig y darlithoedd a'r gweithdai:

Darlithoedd:

  1. Tshechof, Gwylan: rhagarweiniad i'r testun
  2. Tshechof, Gwylan: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  3. Ewripides, Y Bacchai: rhagarweiniad i'r testun
  4. Ewripides, Y Bacchai: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  5. Shakespeare, William, Y Dymestl: rhagarweiniad i'r testun
  6. Shakespeare, William, Y Dymestl: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  7. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: rhagarweiniad i'r testun
  8. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  9. Beckett, Samuel, Diweddgan: rhagarweiniad i'r testun
  10. Beckett, Samuel, Diweddgan: y testun a'i gyd-destun theatraidd

Gweithdai Ymarferol

  1. Tshechof, Gwylan: sefyllfa a chymeriad
  2. Tshechof, Gwylan: gofod dramataidd a gofod theatraidd
  3. Ewripides, Y Bacchai: sefyllfa a chymeriad
  4. Ewripides, Y Bacchai: defodaeth a dinasyddiaeth
  5. Shakespeare, William, Y Dymestl: sefyllfa a chymeriad
  6. Shakespeare, William, Y Dymestl: estroniaeth a meidroldeb
  7. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: sefyllfa a chymeriad
  8. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: etifeddeg ac esblygiad
  9. Beckett, Samuel, Diweddgan: sefyllfa a chymeriad
  10. Beckett, Samuel, Diweddgan: Auschwitz a'r Rhyfel Oer

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Tshecof, Anton (1970) Gwylan (cyfieithiad W . Gareth Jones) Gwasg Prifysgol Cymru
Ewripides, (2003) Y Bacchai (Cyfieithiad Gareth Miles)
Shakespeare, William (1996) Y Dymestl (Cyfieithiad Gwyn Thomas)Gwasg Gee
Ibsen, Henrik (1920) Dychweledigion (Cyfieithiad T. Gwyn Jones)
Beckett, Samuel (1996) Diweddgan (Cyfieithiad Gwyn Thomas) Gwasg Prifysgol Cymru
** Argymhellir - Cefndir
Stanislavski, Konstantin (1980) An Actor Prepares (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood)Methuen
Stanislavski, Konstantin (1988) Building a Character (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood) Methuen
Stanislavski, Konstantin (1988) Creating a Role (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood) Methuen
Merlin, Bella (2003) Konstantin, Stanislavsky Routledge
Barton, John (1984) Playing Shakespeare Methuen
Aristoteles, (2001) Barddoneg (Cyfieithiad J. Gwyn Griffiths)
McMillan, Dougald (1988) Becket in the theatre: the Author as Practical Playwright and Director John Calder
Kott, Jan (1974) The Eating of the Gods: an Interpretation of Greek Tragedy Methuen
Kott, Jan (1967) Shakespeare Oue Contemporary 2il. Methuen

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC