Cod y Modiwl |
DD20200 |
Teitl y Modiwl |
DADANSODDI CYNHYRCHIAD |
Blwyddyn Academaidd |
2004/2005 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Miss Catrin P Jones |
Semester |
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester) |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Mrs Anwen M Jones, Dr Jamie Medhurst, Ms Kate E Woodward |
Elfennau Anghymharus |
DR30220 |
Manylion y cyrsiau |
Eraill | 14 Awr GWEITHDAI |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Cyfraniad i Sesiynau Dysgu | 15% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth Theatraidd | 15% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth Deledu | 15% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth film | 15% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Yr un a'r uchod | |
|
Canlyniadau dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
-
arddangos eu dealltwriaeth o'r cynhyrchiad theatraidd, y rhaglen deledu, a'r ffilm fel celfyddyd ac fel cynnyrch, gan fanylu ar y ffactorau celfyddydol, dywylliannol ac economaidd sy'n cyfrannu at eu creu
-
dadansoddi gwaith theatr fyw, rhaglenni teledu a ffilmiau drwy arsylwi ar y modd y'u strwythurir ac asesu eu hymateb personol iddynt fel aelod o'r gynulleidfa
-
cyflwyno adolygiad o gynhyrchiad theatraidd, rhaglen deledu a ffilm ar ffurf sylwebaeth lafar ac yn ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio'r cynhyrchiad, y ffilm a'r rhaglen deledu fel cyfanweithiau celfyddydol, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy'n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig i'r cyfan. Byddwn yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol yn ogystal a chynhyrchiadau mwy arbrofol fel y bo cyfle ac yn gwylio ystod eang o ddetholiadau o ffilmiau a rhglenni teledu. Byddwn yn meithrin y grefft o adolygu gan sylwi ar ansawdd a natur yr hyn a ddarlledir ac a wylir yn ogystal a dangos dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith ac o natur y gynulleidfa y cyfeirir y gwaith ato.
Cynnwys
-
Sesiwn 1: Cyflwyniad i'r grefft o adolygu yn gyffredinol gyda phwyslais ar hanfodion y broses o baratoi a chyflwyno deunydd sydd o safon cyhoeddi mewn fformat priodol, e.e ar ddisg neu fel atodiad ebost.
-
Sesiwn 2: Ymdriniaeth o brif nodweddion adolygiad theatraidd sy'n canoli ar fynegi ymateb synhwyrus mewn modd dealladwy ac effeithiol yn ogystal ag ystyried nodweddion gwahanol fathau o adolygiadau, e.e darn disgrifiadol byr ar gyfer papur newydd, darn i bryfocio meddwl, darn mwy ysgolheigaidd ar gyfer cyfnodolyn.
-
Sesiwn 3: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli rhaglenni teledu o fathau amrywiol ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol.
-
Sesiwn 4: Cyflwyniad i'r grefft o ddadansoddi a dehongli ffilm ar ffurf adolygiad gan gynnwys trafodaeth o'r termau arbenigol perthnasol
-
Gweithdy 1: Gwaith dadansoddi a dehongli ar y cyd mewn ymateb i enghreifftiau o wahanol fathau o raglenni teledu. Bydd y sesiwn yma yn cynnwys cyflwyniad gyda un o'r myfyrwyr uwchraddedig sy'n gweithio ar gynllun a fydd yn cyflwyno'r myfyrwyr i sensitifrwydd y dasg o adolygu mewn modd adeiladol a phriodol sy'n dangos ymwybyddiaeth o natur y ffactorau masnachol, economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio ar y diwydiant teledu yn y byd sydd ohoni..
-
Gweithdy 2: Gwaith dadansoddi a dehongli ffilm ar y cyd gan gynnwys ffilmiau Cymraeg, Ewropeaidd ac Americanaidd.
Bydd tri seminar x 1 awr yn cael eu dosbarthu trwy'r flwyddyn i gydfynd gyda thri ymweliad theatr i drin a thrafod yr hyn a welwyd o safwynt ffurf, cynnwys ac amgylchfyd theatraidd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC