Cod y Modiwl DD20220  
Teitl y Modiwl DADANSODDI CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Catrin P Jones  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Anwen M Jones, Dr Jamie Medhurst, Ms Kate E Woodward  
Elfennau Anghymharus DR30220  
Manylion y cyrsiau Eraill   14 Awr Gweithdai  
  Seminarau / Tiwtorialau   3 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester CYFRANIAD I SESIYNAU DYSGU  15%
Asesiad Semester SYLWEBAETH THEATRAIDD 750 O EIRIAU  15%
Asesiad Semester SYLWEBAETH DELEDU 750 O EIRIAU  15%
Asesiad Semester SYLWEBAETH FFILM 750 O EIRIAU  15%
Asesiad Semester 1 SYLWEBAETH 2000 O EIRIAU  40%
Asesiad Ailsefyll YR UN A'R UCHOD   

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos eu dealltwriaeth o'r cynhyrchiad theatraidd, y rhaglen deledu, a'r ffilm fel celfyddyd ac fel cynyrch, gan fanylu ar y ffactorau celfyddol, diwyllianol ac economaidd sy'n cyfrannu at eu creu
  2. Dadansoddi gwaith theatr fyw, rhaglenni teledu a ffilmiau drwy arsylwi ar y modd y'u strwythyr ac asesu eu hymateb personol iddynt fel aelod o'r gynulleidfa.
  3. Cyflwyno adolygiad o gynhyrchiad theatraidd, rhaglen deledu a ffilm ar ffurf sylwebaeth lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn byddwch yn archwilio'r cynhyrchiad, y ffilm a'r rhaglen deledu fel cyfanweithiau celfyddydol, gan sylwi ar yr elfennau hynny sy'n dod at ei gilydd i roi ansawdd ac ystyr arbennig i'r cyfan. Byddwn yn mynychu perfformiadau o destunau theatraidd priodol yn ogystal a chynhyrchiadau mwy arbrofol fel y bo cyfle ac yn gwylio ystod eang o ddetholiadau o ffilmiau a rhglenni teledu. Byddwn yn meithrin y grefft o adolygu gan sylwi ar ansawdd a natur yr hyn a ddarlledir ac a wylir yn ogystal a dangos dealltwriaeth o gyd-destun y gwaith ac o natur y gynulleidfa y cyfeirir y gwaith ato.

Cynnwys

Bydd tri seminar x 1 awr yn cael eu dosbarthu trwy'r flwyddyn i gydfynd gyda thri ymweliad theatr i drin a thrafod yr hyn a welwyd o safwynt ffurf, cynnwys ac amgylchfyd theatraidd.

Nod

Ein Nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Hilton, Julian (ed.) (1993) New Directions in Theatre Macmillan
Beckerman, Bernard (1992) Theatrical Presentation Routledge
Bennet, Susan (1990) Theatre Audiences Routledge
Esslin, Martin (1987) The Field of Drama Methuen
Fydd y llyfryddiaith ar ffilm a theledu yn cael ei ddosbarthu i fyfyrwyr

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC