Cod y Modiwl DD20520  
Teitl y Modiwl DADANSODDI GOFOD  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Unrhyw DDAU o'r tri Modiwl Rhan 1 DD10520, DD10320 a DD10120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Cyflwyniad mewn grwp (30 munud)35%
Asesiad Semester Cyflwyniad unigol (30 munud)65%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn archwilio hanes y theatr orllewinol ac yn trafod y berthynas rhwng trefniant gofodol neu bensaerniaeth y theatr ac agweddau ar athroniaeth, celfyddyd a gwerthoedd diwylliannol y gwahanol gyfnodau dan sylw. Damcaniaeth sylfaenol y modiwl yw fod ffurf y theatr drwy'r oesoedd yn cynnig allwedd inni ddeall dehongliad yr oes honno o natur yr unigolyn, a bod y theatr felly'n gweithredu fel math ar 'beiriant' sy'n ein galluogi i ganfod ymwybyddiaeth yr oes.
Agwedd bwysig arall ar y modiwl hwn yw ei fod yn cymell myfyrwyr i ystyried y theatr fel cyfrwng gweledol a chorfforol yn hytrach nag fel ffurf ar lenyddiaeth. Yn hytrach na dehongli'r theatr fel ffurf a greir trwy drosglwyddo gweledigaeth dramodydd yn gnawd ar lwyfan, ystyrir theatr fel cyfres o berthnasau gofodol a brofir yn synhwyrusol, a dadleuir bod y profiad o synhwyro gofod yn cymell gweledigaeth a phosibiliadau dramataidd.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Pearson, Mike (1997) 'Special Worlds, Secret Maps: a Poetics of Performance' yn Staging Wales gol. Anna Marie Taylor Gwasg Prifysgol Cymru
Meirer, Christian (1993) The Political Art of Greek Tragedy Polity
Winkler, John J, Zeitlin, a Froma, I (gols.) (1990) Nothing to do with Dionysos?: Athenian Drama in its Social Context Princeton University Press
Harris, John Wesley (1992) Medieval Theatre in Context: An Introduction Routledge
Vince, Roald W (1984) Ancient and Medieval Theatre: A Histriographical Handbook Greenwood Press
Gurr, Andrew (1992) The Shakespearian Stage 1574-1642 3rd. Cambridge University Press
Beacham, Richard C Adolphe Appia: Artist and Visionary of the Modern Theatre Harwood Academic P
Volbach, Walther (1968) Adolphe Appia, Prophet of the Modern theatre Wesleyan University Press
Craig, Edward Gordon (1983) Craig on Theatre yn J. Michael Walton (gol.) Methuen
Innes, Christopher (1983) Edward Gordon Craig Cambridge University Press
Artaud, Antonin (1994) Antonin Artaud and the Modern Theatre (gol. Gene A Plunka) Farleigh Dickinson University Press
Artaud, Antonin (1970) The Theatre and its Double (cyf. Victor Corti) Calder and Boyars
McLucas, Clifford a Pearson, Mike (1995) Brith Gof: y Llyfr Glas:1988-1995 Brith Gof

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC