Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos eu dealltwriaeth a`u gwybodaeth o`r Theatr Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a`u gosod yng nghyd-destun datblygiad y cyfrwng yn y cyfnod dan sylw.
- ymateb yn feirniadol i`r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes i`w gwaith ysgrifenedig
- Trafod y Ddrama fel amlygiad o fath ar Theatr i safon dderbyniol, gan fedru esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol fyw, ar lafar ac ar bapur
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, fe`ch cyflwynir i rai o brif ddramau y theatr fodern Ewropeaidd, ac i dechnegau dadansoddi sy`n gymwys ar gyfer gosod y testunau hynny yn eu cyd-destun priodol.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- datblygu technegau dadansoddi a gwerthfawrogi`r testun dramataidd fel model o deip arbennig o theatr
- ymgyfarwyddo a rhai o brif destunau dramataidd y Bedwaredd ganrif ar bymtheg a`r Ugeinfed ganrif
- ehangu`r sgiliau dadansoddiadol a feithrinwyd yn DD10120 yn y flwyddyn gyntaf
- bod yn ymwybodol o theatr fel ffenomenon cymdeithasol a llenyddol cymhleth a chywrain
- amlygu gwahaniaethau rhwng y gwahanol destunau a astudir o ran method a swyddogaeth
- archwilio theatr fel strwythur
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Cox, Jeffrey (1987) In the Shadows of Romance: romantic tragic drama in Germany, England and France
Ohio University Press
Broers, Michael (1996) Europe after Napoleon: Revolution, reaction and romanticism 1814-1848
Manchester University Press
Cranston, Maurice William (1994) The Romantic Movement
Blackwell
Schenk, H. G. (1966) The Mind of the European Romantics: an essay in cultural history
Constable: London
Celt PB2222 (1965) Y Ddau Chwyldro: Methodism in Wales and Romanticism in Europe
Clifton: Drenewydd
Coleman, P; Lewis J.E.; Kowalik, J.A. (eds.) (2000) Representations of the self from the Renaissance to Romanticism
CUP
Brown, Marshall (2000) The Cambridge History of Literary Criticism Vol 5: Romanticism
CUP
Labbe, Jacqueline M. (2000) The Romantic Paradox: love violence and the uses of romance, 1760-1830
Macmillan: Hampshire
** Hanfodol
Wedekind, Frank (1995) Deffro`r Gwanwyn (Spring Awakening)
Faber and Faber
Jarry, Alfred (1968) Ubu Frenin (The Ubu Plays)
Methuen
Kaiser, Georg O Fore Tan Ganol Nos (From Morn to Midnight)
Ar gael o`r Adran
Brecht, Bertolt (1995) Y Fam Ddewrder a`i Phlant (Mother Courage)
Methuen Drama
Goethe, J.W.F. (1994) Faust: Rhan 1 (Dramau Aberystwyth)
CAA
Buchner, Georg Woyzeck
(cyfieithiad Guto Dafis, ar gael o`r adran)
Ibsen, Henrik (1958) Rosmersholm
Penguin Classics
Hauptmann, Gerhart Y Gwehyddion (The Weavers)
Ar gael o`r adran
Ibsen, Henrik (1960) Pan Ddeffrown Ni, Y Meirw (When We Dead Awaken)
Penguin Classics
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC