Cod y Modiwl DD30310  
Teitl y Modiwl THEATR A CHYMDEITHAS  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 1.5 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester1.5 Awr Arholiad 1.5 awr rhaghysbysedig50%
Asesiad Semester Traethodau: Traethawd (2,500 o eiriau)35%
Asesiad Semester Cyflwyniad: Cyflwyniad seminar15%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- ymchwilio i faterion neilltuol yn ymwneud a`r berthynas rhwng theatre a chymdeithas

- trafod gwahanol agweddau ar y berthynas rhwng theatr a chymdeithas i safon foddhaol

- llunio dadansoddiad deallus o`r theatr sydd yn cydnabod natur boliticaidd y cyfrwng

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio`r berthynas rhwng theatr a chymdeithas o sawl ongl, gan ddyfalu a damcaniaethu ynghylch effeithiau a chanlyniadau posibl y berthynas honno. Bydd darlithoedd/seminarau`r modiwl yn cyfeirio at waith nifer o artistiaid a theoryddion sydd wedi cyflwyno disgrifiad a dadansoddiad arbennig o`r berthynas rhwng thatr a`i chymdeithas, ac wrth astudio`u gwaith hwy byddwn yn ystyried materion megis y cysyniad o theatr fel cyfrwng addysgu, theatr bobologaidd, cyflyru cymdeithasol, anthropoleg y theatr a.y.b.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- trafod gwahanol ddiffiniadau o `theatr` a `chymdeithas`

- cymharu`r diffiniadau hynny a`ch profiad chithau o`r naill a`r llall

- sylweddoli bod natur theatr fel cyfrwng ynghlwm wrth raid a`r gynulleidfa a`r gymdeithas sydd yn ei chynnal

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Lucas, Ian (1994) Impertinent Decorum Cassell
Bharucha, Rustom (1994) Theatre and the World Routledge
Barker,Howard (1993) Arguments For A Theatre Manchester
** Hanfodol
McGrath, John (1981) A Good Night Out Eyre Methuen
Boal, Augusto (1994) The Rainbow of Desires Routledge
Schneider, Rebecca (1997) The Explicit Body in Performance Routledge
Barba Eugenio (1995) The Paper Canoe Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC