Cod y Modiwl DD30620  
Teitl y Modiwl THEATR CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Anwen M Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Ioan M Williams  
Rhagofynion DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl yma:, DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 11 x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD (2 AWR)60%
Asesiad Semester Traethodau: TRAETHAWD (2500)40%

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- cylfwyno trafodaeth gynhwysfawr o werth y traddodiad dramataidd yng Nghymru ochr yn ochr a`r traddodiad Prydeinig ac Ewropeaidd

- llunio trafodaeth gytbwys o`r berthynas rhwng yr elfennau cyndeithasol a`r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o`r dramodwyr a astudiwyd.

- cymhwyso`r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd

- ymateb yn gryno a hyblyg i gwestiynau ynglyn a thechneg dramataidd y dramodywr a astudiwyd, gan sylwi`n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfryw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, as i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cyndeithas


Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, astudir dramau o 1913 i`r presennol yng nghyd-destun ein gorolwg o ddatblygiad y Theatr Gymraeg yn y ganrif hon. Yn narlithoedd y modiwl hwn, edrychir ar dwf y mudiad ar droad y ganrif ac ar ddylanwad Ibsen a`i ddilynwyr ar ffurf a chynnwys y ddrama gegin Gymraeg. Ystyrir i ba raddau y datblygwyd ac y gwyrwyd y `traddodiad` Ibsenaidd cynnar gan rai o`r dramodwyr amlycaf a ddaeth wedi hynny, gan gynnwys Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Wil Sam a Meic Povey.

Nod

Ein nod wrth gyflwyino`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- annog y myfyrwyr i werthfawrogi datblygiad hanesyddol y ddrama Gymraeg yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.

- gosod rhai o ddramau amlycaf y cyfnod yn eu cyd-destun athronyddol, cymdeithasol ac artistig

- trafod i ba raddau y mae gweledigaeth dramodwyr Cymraeg y cyfnod yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cymdeithas.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
GRUFFYDD, W.J. Beddau'r Proffwydi Ar gael o'r Adran
LEWIS, Saunders (1980) Siwan Christopher Davies
LEWIS, Saunders (1977) Esther Llyfrau'r Dryw
JONES, John Gwilym (1979) Ac Eto Nid Myfi Gwasg Gee
JONES, John Gwilym (1979) Yr Adduned Gwasg Gomer
PARRY, Gwenlyn (1979) Y Twr Gwasg Gomer
JONES, W.S. (1988) Bobi a Sami Gwasg Carreg Gwalch
THEATR BARA CAWS (1995) Bargen Gwasg Carreg Gwalch
POVEY, Meic (1995) Perthyn Gwasg Carreg Gwalch

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC