Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- ymateb yn effeithiol i gwestiynau ynghylch techneg dramataidd y dramodwyr a astudiwyd
- trafod gwaith y dramodwyr mewn perthynas a`i gyd-destun cymdeithasol
- gweithio fel rhan o grwp i lunio a chynnal dadl sy`n arddangos sgiliau dadansoddiadol a chymhariaethol
- trefnu deunydd ar gyfer seminarau a`i gyflwyno`n effeithiol i gyd-fyfyrwyr
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio agweddau ar theatr y yr Ugeinfed ganrif yn Iwerddon dros gyfnod eang, fel modd o archwilio`r newid sylweddol a welwyd yn theatr a llenyddiaeth ddramataidd y wlad honno ac er mwyn gosod y datblygiadau a welwyd yn theatr Iwerddon mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol priodol.
Nod
Prif amcanion y modiwl ydyw:
- galluogi`r myfyrwyr i ddehongli drama a theatr yr Ugeinfed ganrif yn yr Iwerddon fel agwedd ar weithgaredd diwylliannol a gwleidyddol
- meithrin sgiliau dadansoddiadol a`r gallu i lunio a chynnal dadl gytbwys
- cymell myfyrwyr i drafod y ddrama Wyddeleg yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol perthnasol yn ystod yr Ugeinfed ganrif
- annog myfyrwyr i asesu`r cyfryw weithgaredd dramataidd mewn perthynas a`u profiad wrth astudio drama a theatr gyfoes yn Ewrop mewn modiwlau eraill ar y cynllun gradd
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
** Hanfodol
O`Casey, Sean (1949) The Plough and the Stars
Macmillan
Shaw (1964) Heartbreak House
Penguin
Osborne, John (1960) Look Back in Anger
Faber
Churchill, Caryl (1989) Cloud Nine
Nick Hearn
Synge, J.M. (1977) Playboy of the Western World, Riders to the Sea
Allen and Unwin
Yeats, W.B. (1982) Cathleen Ni Houlihan, Deirdre, At The Hawk`s Well
Papermac
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC