Cod y Modiwl DD31620  
Teitl y Modiwl PERFFORMIO 1  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD10120 , DD10320 , DD21520  
Manylion y cyrsiau Eraill   Tua 120 awr cyswllt ynghlwm a chynhyrchiad ymarferol.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Adroddiad Ymarferol: Cyfraniad i`r broses ymarfer (yn cynnwys nodiadau gweithdy)60%
Asesiad Semester Perfformiad yn y Cynhyrchiad Ymarferol.40%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cydweithio fel aelod o grwp creadigol
- meithrin sgiliau penodol yn ol gofynion y cynhyrchiad
- ymateb yn greadigol a chadarnhaol i gyfarwyddyd ymarferol

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno cynhyrchiad theatraidd gerbron cynulleidfa gyhoeddus.   

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- deall gofynion y gwaith ymarferol
- cynhwyso a datblygu`r gofynion hynny wrth berfformio`n gyhoeddus
- creu rol i chi eich hunan o fewn y grwp er lles y cynhyrchiad

Cynnwys

Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl hwn, a chyflwynir technegau neilltuol yn ymwneud a chyd-gyflwyno gwaith ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb dros eu gwaith creadigol eu hunain, gan fod yn atebol i aelodau eraill y grwp a chyd-drafod eu gwaith yn fanwl. Byddwch yn ymchwilio technegau a methoolegau a ddefnyddir yn y cynhyrchiad ac yn datblygu'r technegau hynny.

MEINI PRAWF YR ASESIAD:

Llawlyfr Nodiadau Ysgrifenedig: fe fydd yr asesydd yn gwerthuso cyrhaeddiad y myfyriwr yn ol y meini prawf canlynol:
- dealltwriaeth y myfyriwr o`r math o ymdriniaeth ddadansoddiadol a ddefnyddiwyd wrth gyflwyno`r modiwl
- gallu`r myfyriwr i gymathu a chymhwyso`r egwyddorion a`r ymarferion a gyflwynwyd yn ystod y sesiynau dysgu i`w g/waith ymarferol ei hun
- gallu`r myfyriwr i gynnal cyfrif deallusol cytbwys o`i g/waith trwy gydol y llawlyfr nodiadau
-tystiolaeth o waith ymchwil a darllen cefndirol unigol ar ran y myfyriwr yn ychwanegol i`r deunydd a gyflwynwyd yn ystod sesiynau dysgu`r modiwl
- cyflwyniad taclus gan y myfyriwr, a fydd yn dangos ol gwirio o ran sillafu a gramadeg, adolygu o ran cynnwys a mynegiant (`darllen drwyddo` ar ol gorffen ysgrifennu), a llyfryddiaeth a nodiadau priodol

Asesiad ymarferol: fe fydd yr asesydd yn gwerthuso cyrhaeddiad y myfyriwr yn ol y meini prawf canlynol:
- gallu`r myfyriwr i arddangos dealltwriaeth o natur ac anghenion dramataidd y darn gosod a ddewiswyd, yn enwedig mewn perthynas a`r gofod theatraidd lle cyflwynir y darn gorffenedig
- gallu`r myfyriwr i gymhwyso`r wybodaeth a`r hyfforddiant corfforol a dderbyniwyd yn yr ymasrferion er mwyn cyflwyno`r darn gorffenedig
- gallu`r myfyriwr i ymateb yn ddeallus a dychmygus i gyfarwyddyd y tiwtor wrth baratoi`r darn ymarferol ac i gyfraniad y gynulleidfa wrth ei gyflwyno
- tystiolaeth o waith ymchwil a darllen cefndirol unigol ar ran y myfyriwr

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
CHEKOV, Michael (1953) To the Actor, on the Technique of Acting Harper
GORDON, Mel (1987) The Stanislavsky Technique: Russia. A Workbook for Actors Applause
ZARRILI, Philip B. (1994) Acting (Re)Considered: Theories and Practices Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC