Cod y Modiwl | DD32820 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | THEATR MEWN ADDYSG | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Charmian C Savill | ||||||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||||||||||||||
Rhagofynion | DD10320 , DD10120 , DD10520 Unrhyw ddau o'r tri modiwl yma | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 x 2 awr - darlithoedd/gweithdai | |||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | Gwaith dyfeisio, ymarfer a theithio ysgolion (tua 120 awr) | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Byddwch yn mynuchu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ym,arferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw byddwch yn ymweld ag ysgolion o bob math, ac os yn bosibl fe fydd cyfleoedd i fynychu perfformiadau byw. yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.
Fydd y darlithoedd/gweithdai yn cynnwys y sesiynau canlynol:
Hanes Theatr Mewn Addysg
Drama Mewn Addysg a theatr Mewn Addysg
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (i)
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (ii)
Ystyr(on) y Perfformiad: Dadansoddi a Gwerthuso
Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifainc
Agweddau Ewropeaidd
Beth am y Dyfodol?
- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC