Cod y Modiwl DD32920  
Teitl y Modiwl THEORI CYFARWYDDO  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Semester 1  
Rhagofynion DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl yma:, DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 x 1 awr darlith/seminar  
  Sesiwn Ymarferol   10 x 2 awr gweithdy  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethodau: TRAETHAWD (2500)50%
Asesiad Semester Gwaith Arddangosfa: ARDDANGOSIAD YMARFEROL50%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar geal i`r cyfarwyddwr wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllweinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr


Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir rhai o egwyddorion sylfaenol y grefft o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Yn y sesiynau dysgu, archwilir datblygiad a thwf y cysyniad o gyfarwyddo ar hyd yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar ddulliau o ddarllen a dehongli drama ar gyfer perfformiad. Trafodir y berthynas rhwng y Cyfarwyddyd a`r Dylunydd, a threfnir sesiynau ymarferol pryd y gall myfyrwyr weithio ac arbrofi ar ddarnau o destunau wedi`u dethol o gyfnodau gwahanol.

  1. Hanes Penseri Gofod ac Amser
  2. Datblygiadau Cyfarwyddo yn Ewrop
  3. Stanislafsci a'r Rwsiaid
  4. Cynlunwyr-Gyfarwyddwyr yr 20fed ganrif: Craig, Wilson ac eraill
  5. Mynegwyr Theatraidd yr 20fed a'r 21fed ganrif:Artaud, Grotowski ac eraill
  6. Ymwybyddiaeth wleidyddol a chymdeithasol (i) Brecht a Piscator
  7. Ymwybyddiaeth wleidyddol a chymdeithasol (ii): Boal, Jellicoe, Littlewood a Theatr-Mewn-Addysg
  8. Canolfannau Arbrofi Theatraidd:Gorotowski, Barba, Kantor, Brook ac eraill
  9. Menywod sy'n cyfarwyddo nawr:Le compte, Bogart, ac eraill
  10. Dynion sy'n cyfarwyddo nawr: Stein, Baker ac eraill

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- dyfnhau eich dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, y penderfyniadau, a`r ystod o bosibiliadau sydd ar agor i`r Cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`e berfformio
- cwestiynu rol y sawl sy`n gyfrifol am greu a chlynnu theatr gyfoes

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Schneider, R a Cody, G (2002) Re-Directors Routledge
BRADBY, David & WILLIAMS, David (1988) Director's Theatre Macmillan
MILLER, J (1986) Subsequent Performances Faber
MITTER, S (1992) Systems of Rehearsal Routledge
** Argymhellir - Cefndir
Manful, Helen (1999) Women Directors on Directing Methuen

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC