Cod y Modiwl | DD33020 | ||||||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | YMARFER CYFARWYDDO NEU DDYLUNIO | ||||||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | ||||||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||||||||||||||||||||
Semester | Semester 2 | ||||||||||||||||||||
Rhagofynion | DD32920 Neu modiwl priodol dylunio ar gyfer dylynwyr | ||||||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 10 Awr 12 x 1 awr | |||||||||||||||||||
Sesiwn Ymarferol | Cyfarfodydd cynhyrchu ac ymarfer dwys ar gyfer prosiect ac ymweliad theatr | ||||||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
| ||||||||||||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
- cyflwyno gweledigaeth artistig ddatblygiedig i`r tim o`ch cwmpas
- creu strategaeth ymarferol er mwyn gweithredu`r weledigaeth honno
- ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau a chyd-destun y cynhyrchiad
Mae`r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe`i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwydoo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer ei berfformio`n gyhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadau manwl o`r broses ymarfer a pharatoi a`u cyflwyno i`r arholwr mewn viva. Dylai`r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.
Gall myfyrwyr sy`n dymuno astudio Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchaid adrannol, ei baratoi a`i godi. Yn yr un modd, rhaid i`r myfyrwyr hyn gyflwyno`u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses greu a`r penderfyniadau a wnaethpwyd.
Bydd darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth grwp ynghylch y dewis ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a`r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynau unigol gyda chyfarwyddwyr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ymffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a`r perfformiad ei hun. Ar adeg cwblhau`r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi`r gwaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddynt ysgrifennu eu traethodau.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC