Cod y Modiwl DD33120  
Teitl y Modiwl YSGRIFENNU DRAMA  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Anwen M Jones  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion Unrhyw ddau o'r canlynol : DD10520, DD10320, DD10120, DD20420  
Manylion y cyrsiau Sesiwn Ymarferol   5 sesiwn 3 awr o hyd  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 sesiwn awr o hyd  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Sgript unigol30%
Asesiad Semester Cyfraniad i gwblhaur tasgau30%
Asesiad Semester Sgript unigol40%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- sianelu eu hynni creadigol mewn ffordd briodol er mwyn cyfansoddi drama wreiddiol
- cwblhau tasgau paratoadol penodol o fewn amser penodol
- arddangos sgiliau marchnata addas ar gyfer canfod cynulleidfa ar gyfer eu gwaith creadigol
- cyflawni gwaith ymchwil paratoadol ar gyfer prosiect creadigol
- adolygu a chyflwyno sgriptiau dramataidd ar ffurf ysgrifenedig

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn meithrin y grefft o ysgrifennu sgript drama tra`n dod i ddeall rhai o brif egwyddorion ysgrifennu creadigol dramataidd. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio ar gyfer prosiect creadigol ac yn cyflwyno'r cyfryw brosiect ar lun cynllun yn ogystal ag ar ei ffurf terfynol. Datblygir gallu myfyrwyr i gyfrannu i drafodaeth a gwaith grwp, i gyflwyno gwaith mewn da bryd ac i feithrin a chyflwyno gweledigaeth ddramataidd i gynulleidfa.

Nod

Prif amcanion y modiwl ydyw:
- sbarduno myfyrwyr i ddatblygu eu doniau ysgrifennu creadigol
- datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o ffurf a saerniaeth drama fel math ar gelfyddyd
- rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'r sgiliau dadansoddiadol a fethrinwyd ar fodiwlau eraill yn y cynllun gradd er mwyn cyfansoddi a chreu drama

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Argymhellir - Cefndir
Bowen, Geraint (gol) (1972) Ysgrifennu Creadigol: Darlithau Taliesin Gomer
Edgar, David (gol) (1999) Playwrights on Playwriting Faber
Llywelyn, Emyr (1998) Crefft Ysgrifennu: Efelychu a Chreu Castell Newydd Emlyn
Llywelyn, Emyr (1998) Hwyl Ysgrifennu Castell Newydd Emlyn
Morgan, M. I. (2000) Llen, Llun a Llwyfan Canolfan Adnoddau Addysg
Thomas, M. Wynn (1992) Internal Difference: Twentieth Century Writing in Wales University of Wales Press
Yeger, Sheila (1990) The Sound of One Hand Clapping: A Guide to Writing for the Theatre Amber Lane

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC