Cod y Modiwl FT20410  
Teitl y Modiwl DADANSODDI DOGFEN  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Jamie Medhurst  
Semester Semester 2  
Rhagofynion FT10720  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 darlith 3 awr o hyd  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  60%
Asesiad Semester Traethawd: 2,500 o eiriau  40%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

Dadadeiladu`r testun gweledol gan nodi`r elfennau hynny o`r broses gynhyrchu sy`n nodweddi pob raglen ddogfen.
Cwestiynu`r cysyniad o wrthrychedd mewn ffilmiau dogfen.
Profi dealltwriaeth o`r gwahanol ddulliau o gyfryngu mewn filmiau dogfen (e.e. trwy ddisgrifio gwahanol fathau a moddau o awduriaeth o fewn y genre).
Dadansoddi`r gwahanol dechnegau o gyflwyno `gwirionedd` y profiad a gyflwynir mewn ffilm ddogfen.
Dangos sut mae gwahanol gynulleidfaoedd cyfoes yn ymateb i destunau ffeithiol, gan gyfeirio`n benodol at agweddau gwleidyddol y broses o dderbyn.
Gwerthfawrogi`r ffordd y mae technoleg yn dylanwadu ar gynnwys ffilm ddogfen.


Nod

Amcan y modiwl yw olrhain twf y ffilm a`r rhaglen deledu ddogfen, cwestiynu`r syniad o wrthrychedd wrth lunio rhaglen a ffilm dogfen, a dadansoddi`r gwahanol ddulliau o fewn y genre. Dadansoddir arddull pob awdur er mwyn gwhaniaethu rhwng yr awdur hysbys a`r ddogfen sy`n honni bod heb awdur a heb gyfryngwr. Gofynnir i fyfyrwyr ystyried cwestiynau ar gyflwyniad `realaeth` ar y sgrin.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Winston, Brian (1995) Claiming The Reel: The Documentary Film Revisited BFI
Paget, Derek (1998) No Other Way To Tell It: Dramadoc/Docudrama on Television MUP
Nicholls (1991) Representing Reality Indiana University Press
Barsam (1992) Non-fiction Film: A Critical History Indiana University Press
Corner, John (1996) The Art of Record: A Critical Introduction to Documentary MUP
Richard Kilborn and John Izod (1997) An Introduction to Television Documentary; Confronting Reality MUP
Kevin McDonald and Mark Cousins (1996) Imagining Reality: The Faber Book of Documentary Faber

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC