Cod y Modiwl FT20920  
Teitl y Modiwl CANRIF O SINEMA 2  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Kate E Woodward  
Semester Semester 2  
Rhagofynion FT10720 , FT10320 , FT20320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Sesiwn Ymarferol   10 Awr  
  Eraill   Sesiynau gwylio.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd 1 (2,500 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Traethawd 2 (2,500 o eiriau)  60%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:

Dadansoddi ffilmiau celfyddydol a ffilmiau prif-ffrwd o ran techneg a'r discwrs a gynhelir ynddynt;
Gwahaniaethu rhwng gwaith cyfarwyddwyr gwahanol o ran amcan, dull ac arddull;
Trafod prif nodweddion ffilm naratif, gan wahaniaethu rhwng elfennau y gellir eu disgrifio''''n rhai ffilmaidd ag elfennau eraill.

Disgrifiad cryno

Cyflwynir gyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr barhau a datblygu'r gwaith a ddechreuwyd yn FT20320: Canrif o Sinema 1, gan estyn y fframwaith cronolegol a chan gyflwyno ffilmiau mwy diweddar o'r gwledydd dan sylw, sy'n amlygu dewisiadau amrywiol iawn o ran techneg, dull a discwrs. Wrth astudio'r ffilmiau hyn, sy'n cynnwys enghreifftiau o ffilmiau celfyddydol a rhai prif-ffrwd, ynhgyd a chynnyrch y diwydiant ffilm Americanaidd, caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gallu dadansoddiadol soffistigedig a meistroli geirfa a thechnegau beirniadaethol perthnasol i'r cyfrwng.

Nod

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn parhau'r astudiaeth a ddechreuwyd yn Canrif o Sinema 1, gan astudio nifer o ffilmiau o'r cyfnod rhwng 1950-1985 yn Ewrop, Ciwba a'r Unol Daleithiau fel enghreifftiau o draddodiad y ffilm naratif. Nodir ym mha gyd-destun diwydiannol a diwylliannol y cynhyrchwyd y ffilmiau hyn, ond prif ganolbwynt yr astudiaeth bydd y berthynas rhwng techneg a disgwrs y ffilmiau engrheifftiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC