Cod y Modiwl GF16220  
Teitl y Modiwl CYFRAITH CYFANSODDIADOL  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys N Williams  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Ann P Sherlock, Mr Cornelius Anthony O'Mahony, Ms Susan P Jenkins  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   35 Awr Yn Saesneg  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr Seminarau. Yn Gymraeg  
Exemptionau Professionalau Yn angenrheidiol at Bwrpas Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:
? Esbonio sut mae cyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod y cynigion am ddiwygio
? Dadansoddi''''r gyfundrefn bresennol a chloriannu''''r cryfderau a''''r gwendidau
? Ymdrin a defnyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddol
? Nodi problemau yn y gyfundrefn gyfansoddiadol, a chymhwyso eu gwybodaeth i awgrymu atebion posibl (e.e. gan gyfeirio at ddeunydd cymharol)
? Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn awgrymu canlyniadau posibl i achosion
? Nodi a gwerthfawrogi y goblygiadau i''''r gyfraith gyfansoddiadol yn sgil datblygiadau cyffredinol yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, a deall y berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaid/Ryngwladol, yn ogystal a''''r gydberthynas rhwng elfennau canolog a datganoledig yn y cyfansoddiad.

Asesir y canlyniadau dysgu hyn trwy arholiad ac aseiniad gwaith ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau traethawd a phroblemau, a byddant yn golygu ymdrin a defnyddiau sylfaenol y cyfansoddiad.

Yn ogystal a''''r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:
? Sgiliau da wrth reoli amser er mwyn paratoi at seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
? Y gallu i gyflawni ymchwil annibynnol y rhoddir cydnabyddiaeth amdano yn yr asesiadau
? Canfod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar glawr ac ar ffurf electronig. Bydd y seminarau''''r gofyn am baratoi defnyddiau o wefannau
? Y gallu i weithio mewn grwpiau - cynhelir hanner y seminarau ar ffurf gweithdai, lle bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain ac yn trefnu cyflwyniad byr ar y cyd.

Disgrifiad cryno

Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol yn yr ystyr nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Beth mae hyn yn ei olygu, pam mae hi felly, ac a ydyw'n gwneud gwahaniaeth ymarferol, yw rhai o'r cwestiynau y byddwn yn eu hystyried yn y cwrs hwn, sy'n ceisio cyflwyno yr astudiaeth o'r gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyflwyno athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn benodol.

Mae'r wir bod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu'n raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr dros y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o'r newidiadau mwyaf yn gymharol ddiweddar wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach byth cafwyd y dadleuon brwd ar ddiwygio T?'r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i'r cwrs yw'r modd y mae'r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio'r arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwnc pwysig arall a ystyrir yn y cwrs yw i ba raddau y mae terfynau i bwerau'r Llywodraeth a'r Senedd. A ydyw'n wir bod 'ran y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau'n ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a oes sicrwydd tebyg yng nghyfundrefn Prydain.

Mae'n sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl barhaol ynghylch rhai sefydliadau yn y cyfansoddiad. Sut y dylid diwygio T?'r Arglwyddi? Pa rhan y dylai'r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i'r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu'n destun y galwadau am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw:
cyflwyno egwyddorion y gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn benodol, i fyfyrwyr hyd at lefel sy'r bodloni gofynion eithrio proffesiynol;
annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol;
hybu sgiliau gwaith gr'r; a
datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.

Cynnwys

Maes Llafur

1. Cyflwyniad cyffredinol i'r Gyfraith Gyfansoddiadol; cyfansoddiadau ysgrifenedig ac anysgrifenedig; terfynau i b'rr llywodraethau; trefnu pwerau llywodraeth; cynnwys y ddeddfwrfa, y weithrediaeth a'r farnwriaeth; gwahaniad pwerau a rhwystrau a gwrthbwysau; cyflwyniad i arolygon barnwrol o ddeddfwriaeth; cymharu cyfundrefnau'r UDA a'r DU; amddiffyn hawliau o dan gyfansoddiadau; cyflwyniad i raglen diwygio cyfansoddiad y DU; cyflwyniad byr i'r Ddeddf Hawliau Dynol.

2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain; rheolau cyfreithiol y Cyfansoddiad: Deddfau'r Senedd a deddfwriaeth ddirprwyol; deddfwriaeth / deddfwriaeth ddirprwyol a wneir yn y cynulliadau rhanbarthol / senedd; lle cyfraith y Gymuned Ewropeaidd yn y gyfundrefn; cyflwyniad ar sut y llunnir cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; athrawiaethau sylfaenol cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; cyflwyniad i gonfensiynau'r Cyfansoddiad; problemau ynghylch adnabod a gorfodi confensiynau; yr achos o blaid gosod confensiynau mewn cod; cyfansoddiad ysgrifenedig i'r Deyrnas Unedig?

3. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y DU; Deddf Hawliau Dynol 1998; cyflwyniad a chefndir; y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; yr hawliau a ddiogelwyd; y modd y mae hawliau wedi eu diogelu; materion cyfreithiol penodol ynghylch y ddeddfwriaeth. (Ymdrinnir a'r pwnc yn bennaf mewn seminarau yn hytrach na'r darlithoedd).

4. Strwythurau a sefydliadau 1: Strwythur tiriogaethol y Deyrnas Unedig; cyfansoddiad unedol y Deyrnas Unedig; rhannau cyfansoddol y DU; datganoli; Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a deddfwriaeth ddatganoli arall.

5. Strwythurau a sefydliadau 2: Sefydliadau llywodraeth yn y Deyrnas Unedig; sefydliadau traws-cenedlaethol, canolig, rhanbarthol a lleol; cyrff deddfu yn y DU; y Senedd a'r deddfwrfeydd datganoledig, yn enwedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ? ei swyddogaeth a'r gynnwys; rhaniad y grymoedd deddfu; y broses ddeddfu; grym y Weithrediaeth yn y DU: sefydliadau, pwerau, atebolrwydd: y Weithrediaeth; y Goron; Llywodraeth Ganolog ? y Prif Weinidog, y Cabinet, gweinidogion, yr Adrannau, y Gwasanaeth Sifil a'r syniad o `lywodraeth estynedig? fodern a swyddogaethau asiantaethau a phreifateiddio; gweithrediaethau datganoledig; gwahanu pwerau.

6. Athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig 1: athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd: edrych ar elfennau'r athrawiaeth am Sofraniaeth y Senedd; datblygiad a goblygiadau'r athrawiaeth; trosglwyddo sofraniaeth i gyn-drefedigaethau; yr undeb rhwng yr Alban a Lloegr a Chymru; sofraniaeth seneddol a datganoli; gwarchod hawliau a materion sicrhau (entrenchment); ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd (goruchafiaeth cyfraith y Gymuned Ewropeaidd, ac ymaddasu iddi o fewn y DU).

7. Athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad y Deyrnas Unedig 2: Rheolaeth y Gyfraith; Rheolaeth y Gyfraith neu `Unbennaeth Etholedig?? ystyr `rheolaeth y Gyfraith? a'r arwyddocad; rheolaeth y gyfraith a sofraniaeth seneddol; edrych ar gyhuddiadau bod unbennaeth etholedig mewn bod; y Ddeddf Hawliau Dynol a rheolaeth y gyfraith.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Gweler LA16220

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC