Cod y Modiwl GF36030  
Teitl y Modiwl CYFRAITH CAMWEDD  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Catrin F Huws  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   48 Awr Yn Saesneg - tair darlith un awr yr wythnos yn ystod y ddau semester  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr Seminarau. Yn Gymraeg - pum seminar un awr ym mhob semester  
Exemptionau Professionalau Yn ofynnol at Bwrpas Proffesiynol  

Canlyniadau dysgu

Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy''''r rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a''''r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.

Disgrifiad cryno

Pwnc deinamig yw Cyfraith Camwedd sy?n ymdrin ag amrywiaeth eang dros ben o brofiad dynol. Wrth astudio?r pwnc, bydd myfyrwyr yn cael cipolwg, nid yn unig i un o ganghennau hanfodol y gyfraith, ond hefyd i sut mae?r gyfraith yn effeithio ar lawer iawn o weithgarwch cymdeithasol ac economaidd, oherwydd nid rhyw bwnc sych a haniaethol sydd dan sylw ond yn hytrach un sy?n dylanwadu mewn ffordd hyfyw ar fywyd pob dydd ym myd y cartref ac ym myd busnes. O?r herwydd, ceir rhyngweithio bywiog rhwng egwyddorion cyfreithiol a pholisi cymdeithasol ac economaidd. Pwnc gorfodol yw Cyfraith Camwedd i fyfyrwyr LLB ac yn bwnc craidd i ddibenion cael eu hesgusodi o Ran I arholiadau?r Gymdeithas Gyfraith.
Disgrifiad Cyffredinol
Rydym yn dechrau gyda Chyfraith Tresmasu cyn symud ymlaen at Esgeulustod yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn darganfod nid yn unig sut mae polisi cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar gwestiwn atebolrwydd o ran bai ac amrywiaeth posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd strwythur dadansoddol camwedd Esgeulustod. Dyma faes bywiog yn y gyfraith sydd wedi cael ei ddatblygu?n helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac sy?n dal i fod yn destun cryn ddadlau. Ar ol ymdrin ag amddiffyniadau ac atebolrwydd dirprwyol (atebolrwydd cyflogydd am gamweddau a gyflawnir gan ei ch/gyflogeion), mae?r cwrs yn ymdrin a chamweddau pellach, yn enwedig y rheini sy?n ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans ac atebolrwydd am ddifwyno. Yn ei gyfanrwydd, mae?r cwrs yn ymdrin a sut mae?r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol er mwyn osgoi difrod/niwed ac mae?n hanfodol, nid yn unig ynddo?i hun, ond hefyd mewn perthynas a llawer iawn o feysydd eraill yn y gyfraith.

Nod

Heblaw am drwytho myfyrwyr yn drylwyr mewn cyfraith camwedd, mae?r cwrs yn darparu dealltwriaeth hanfodol am sut y mae cyfraith gwlad yn gweithredu. Dyma gerbyd perffaith i ennill sgiliau dadansoddol sy?n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae?n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a?r gallu i feddwl yn rhesymegol yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae dewisiadau?n cael eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Gan mai pwnc cyfraith achos yn bennaf ydyw, bydd myfyrwyr yn mynd yn fedrus iawn wrth ymchwilio achosion gan ddefnyddio fersiynau copi caled a thrwy chwilio drwy wahanol gronfeydd data. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu arbenigedd mewn dadansoddi achosion, nid yn unig wrth ganfod y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd dealltwriaeth am sut mae cynsail yn cael ei datblygu ac sut mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.

Cynnwys

Dysgu
Dysgir camwedd drwy ddarlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn darparu cipolwg ar strwythur y gyfraith ac sut y gellir dadansoddi achosion i greu?r egwyddorion y tu ol i?r pwnc. Gan mai pwnc cyfraith achosion yw camwedd yn ei hanfod, ni fydd y darlithwyr yn darparu dadansoddiad terfynol o reolau?r gyfraith, ond, yn hytrach, bydd y myfyriwr yn cael ei lywio tuag at wneud eu hasesiad eu hunain o ystyr yr achosion. Mae darllen yr achosion cymeradwyedig yn hanfodol a bydd seminarau?n cynnig fforwm ar gyfer trafod dealltwriaeth a defnydd priodol o gyfraith yr achos lle y bydd myfyrwyr yn meithrin profiad wrth egluro syniadau cymhleth. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu dau draethawd yn ystod y flwyddyn lle y bydd angen safon uchel o ran mynegiant clir a eglurder gramadegol.
Maes Llafur:
1. Egwyddorion Cyffredinol
2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Camwedd

TRESMASU
3. Tresmasiad corfforol
(a) Curo ac ymosod
(b) Achosi Gofid Emosiynol Bwriadol
(c) Camgarcharu
(d) Amddiffyniadau i dresmasiad corfforol
4. Tresmasiad ar Dir
5. Ymyrraeth fwriadol a siatelau
(a) Tresmasiad ar nwyddau
(b) Trosiad
6. Tresmasu ac Esgeulustod

ESGEULUSTOD ? YR EGWYDDORION SYLFAENOL

Dyletswydd Gofal
(a) Ystyr dyletswydd
(b) Y Pleintydd Anrhagweladwy
8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Medr y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd
9. Prawf Esgeulustod
10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Niwed
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd niwed
11. Diwygio
(a) Comisiwn Pearson
(b) System Atebolrwydd Di-fai

ESGEULUSTOD ? PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH
12. Anweithiau
13. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus
14. Sioc Nerfol
15. Camddywediad esgeulus
16. Colled Economaidd ? Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig
17. Dyletswydd Gofal a Chontract
18. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeulustod
(c) Deddf Diogelu?r Defnyddiwr 1987
19. Plant Heb Eu Geni

AMDDIFFYNIADAU
20. Esgeulustod cyfrannol
21. Cysyniadaeth
(a) Effaith rhybudd
(b) Cysyniadaeth ? Ni niweidir y sawl sy?n cydsynio
22. Os yw?r achos yn ddrwg /anghreithlondeb

ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL
23. Atebolrwydd dirprwyol
(a) Y ddamcaniaeth gyfreithiol
(b) Natur ?cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol /yr hunangyflogedig

CAMWEDDAU PELLACH
24. Tor-dyletswydd statudol
25. Atebolrwydd Meddianwyr
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr
26. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat
27. Atebolrwydd Caeth: Rylands yn erbyn Fletcher
28. Atebolrwydd am Danau
29. Rheoli Ffurfiau Arbennig ar Ddifwyno
(a) Gollyngiad niwclear
(b) Cael gwared a gwastraff
30. Atebolrwydd am Anifeiliaid
31. Difenwad

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Gweler LA36030

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC