Cod y Modiwl GW35020  
Teitl y Modiwl CYMRU A DATGANOLI  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Elin Royles  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   7 Awr (7 x 1 awr)  
  Darlithoedd   16 Awr (16 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  50%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:

- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- deall a gwerthuso?r natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethol ddatganoledig a sefydlwyd yn 1999.

Nod

Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall a dadansoddi'r canlynol:

- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.

Cynnwys

Bydd y modiwl arloesol yma'n bwrw golwg ar y gwahanol ymdrechion a gafwyd i sicrhau mesur o hunanlywodraeth i Gyrmu o ddyddiau Cymru Fydd yn niwedd y 19 ganrif hyd at 1997 gan roi sylw arbennig i nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y cynlluniau a osodwyd gerbron. Trafodir yn fwy manwl yr egwyddorion cyfansoddiadol sy'r sail i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a'r gwerthoedd a geiswyd eu hymgorffori yn ei strwythur mewnol. Rhoddir sylw hefyd i natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal a ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Cyfnodolyns
www.contemporary-wales.com Contemporary Wales

Darllen Rhagarweiniols
** Testun A Argymhellwyd
Hazell R (gol) (2003) The state of the Nations: The Third Year of Devolution in the United Kingdom Llundain, UCL, Imprint Academic
Chaney P, Hall T Pithouse (gol) (2001) New Governance - New Democracy? Post Devolution Wales Gwasg Prfiysgol Cymru, Caerdydd
Osmond J and Barry Jones, J (gol) (2003) Birth of Welsh Democracy: The First Term of the National Assembly Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC