Cod y Modiwl HC31630  
Teitl y Modiwl GWRTHDARO A CHYDFODOLAETH - Y NORMANIAID HYD OWAIN GLYN DWR  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Karen Stober  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus WH32130  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr 18 Lectures  
  Seminarau / Tiwtorialau   9 Awr 9 seminars  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR, AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD X 2,500 O EIRIAU, 1 X 4,000 O EIRIAU  40%
Arholiad Ailsefyll3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Ailsefyll UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Meddiannu ac adolygu?n feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod hanes Cymru?r Oesoedd Canol yn ei chyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.   

Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o?r testunau dan sylw, o?r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol gan gynnwys tystiolaeth lenyddol.

Amgyffred y problemau hanesyddol sy?n ymwneud ag effaith ymsefydlu gan yr Eingl-Normaniaid ar gymdeithas Cymru?r Oesoedd Canol.

Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.

Gweithio?n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr?p.

Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Deall pwysigrwydd safleoedd hanesyddol a gwerthfawrogi eu rol fel tystiolaeth fyw.

Disgrifiad cryno

Mae?r cestyll a feddai Edward I yng Nghymru, sydd bellach yn adfeilion, yn atgof pwerus o oes o oresgyn a brwydro a barhai am nifer o ganrifoedd. Gan gychwyn gyda Goresgyniad y Normaniaid yn Lloegr a dyfodiad ymsefydlwyr Normanaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn trafod esgyniad a chwymp tywysogion Cymru, ac yn gorffen gyda gwrthryfel Owain Glyn D?r yn y bymthegfed ganrif, amcan y modiwl hwn yw cyflwyno?r cyfnod hwn o frwydro a chydfyw a luniai drosodd a thro hynt Cymru a?i phobl yn yr Oesoedd Canol. Trafodir materion megis hunaniaeth genedlaethol gan ystyried newidiadau yng Nghymru?r Oesoedd Canol yn ystod y canrifoedd o anghydfod ac ymsefydlu, a bydd y materion hyn yn cael eu hegluro ymhellach trwy enghreifftiau llenyddol Cymraeg Canol. Bydd sefyllfa Cymru yn yr Oesoedd Canol yn cael ei gosod yn y cyd-destun ehangach, Ewropeaidd trwy asesu effaith gwleidyddiaeth, masnach, a rhyfel ar y gymdeithas yng Nghymru a?r berthynas rhwng yr elfennau hyn.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno hanes Cymru?r Oesoedd Canol a?i brwydr dros annibyniaeth yn ystod y canrifoedd rhwng y goresgyniad Normanaidd a gwrthryfel Owain Glyn D?r. Bydd y modiwl felly yn llenwi?r bwlch presennol yn y cyrsiau am hanes Cymru?r Oesoedd Canol, ac yn ehangu ymhellach yr opsiynau i fyfyrwyr sy?n dymuno astudio hanes Cymru.

Cynnwys

1. Cyflwyniad: asesu?r dystiolaeth ? ffynonellau canoloesol
2. Cymru cyn y Normaniaid
3. Y Normaniaid yng Nghymru ? cymdeithas ac economi
4. Y Normaniaid yng Nghymru ? crefydd a?r eglwys
5. Y Normaniaid yng Nghymru ? y Gororau
6. Oes y tywysogion (i)   
7. Oes y tywysogion (ii)
8. Oes y tywysogion (iii)
9. Cymru ac Edward (i)   
10. Cymru ac Edward (ii)
11. Cymru ac Edward (iii)   
12. Y Sistersiaid yng Nghymru
13. Y traddodiad llenyddol (i)
14. Y traddodiad llenyddol (ii)
15. Owain Glyn D?r ? Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg
16. Owain Glyn D?r ? y gwrthryfel
17. Owain Glyn D?r ? wedi?r gwrthryfel
18. Casgliadau

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
John Davies (1990) Hanes Cymru Llundain
R.R. Davies, (1986) The Age of Conquest: Wales 1063-1415 Rhydychen
R.R. Davies (1997) The Revolt of Owain Glyn D?r Rhydychen
R.R. Davies (2002) Owain Glyn D?r: Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru Talybont
A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.) (1997) A Guide to Welsh Literature, 1282-c.1550 Caerdydd
Turvey, R. (2002) Welsh Princes: the native rulers of Wales, 1063-1283 Llundain
Walker, D (1990) Medieval Wales Caergrawnt
Williams, I.M. (ed.) (2002) Cronica Walliae Caerdydd
Williams, J (1860) Brut y Tywysogion Llundain
A.D. Carr (1995) Medieval Wales Llundain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC