Cod y Modiwl HC34230  
Teitl y Modiwl HUNANIAETHAU CENEDLAETHOL YN YNYSOEDD PRYDAIN 1801-1914  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul B O'Leary  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus CF34220 , MW34220 , WH34230  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr  60%
Asesiad Semester Traethodau: 2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)40%

Canlyniadau dysgu

Ar ol cwblhau?r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol, sy?n gysylltiedig a ffurfio hunaniaethau cenedlaethol ym Mhrydain ac Iwerddon yn y cyfnod 1800-1914.


Ystyried yn feirniadol ffurfiad hunaniaethau cenedlaethol y pedair cenedl yn Ynysoedd Prydain, a?u perthynas a hunaniaeth Brydeinig sy'n pontio trostynt.

Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy?n berthnasol i?r astudiaeth o hunaniaethau cenedlaethol yn y gorffennol.

Casglu a dadansoddi eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol.

Darllen, dadansoddi, ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd.





Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw archwilio datblygiad hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain wedi'r Uno rhwng Prydain ac Iwerddon yn 1801. Ymdrinir a themau penodol yng ngoleuni gwaith damcaniaethol ar genhedloedd fel 'cymunedau'r dychymyg'. Ymhlith y themau dan ystyriaeth fydd: y modd y crewyd hunaniaeth Brydeinig a'r tyndra rhyngddi ag hunaniaethau cenedlaethol eraill; dyfeisio 'traddodiadau' newydd; rhyfel ac imperialaeth boblogaidd; agweddau tuag at leiafrifoedd a gender; ac hunaniaeth genedlaethol mewn perthynas a gweithgareddau hamdden, megis chwaraeon. Trafodir yn ogystal y drafodaeth ddiweddar ar natur 'hanes Prydain'.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Linda Colley Britons: Forging the Nation 1707-1837
Keith Robbins Nineteenth Century Britain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC